Penodiad NICE

Yr Athro Jo Rycroft-Malone Yr Athro Jo Rycroft-Malone Yn ddiweddar penodwyd Yr Athro Jo Rycroft-Malone o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor yn gadeirydd newydd Grŵp Strategaeth Weithredu’r  National Institute for Health and Clinical Excellence  (NICE). 

Mae’r Grŵp Gweithredu’n cynghori NICE ynghylch ei ddulliau a’i strategaethau i hwyluso gweithredu canllawiau NICE ar draws y GIG, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r Athro Rycroft-Malone yn Athro Gwasanaethau Iechyd ac Ymchwil Weithredu ac yn Gyfarwyddwr Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, ac mae hefyd yn athro gwadd ym Mhrifysgol Ulster a Phrifysgol Alberta, Canada.  

Yn wreiddiol hyfforddodd yr Athro Rycroft-Malone fel nyrs ac yna aeth ymlaen i astudio seicoleg ar lefel israddedig ac ôl-radd.  Mae wedi dod i fri’n rhyngwladol am ymchwil weithredu a throsi gwybodaeth yn weithredu.  Ar hyn o bryd mae gan yr Athro Rycroft-Malone werth tua £5 miliwn o gyllid gan y National Institute for Health Research (NIHR), EU FP7 a’r  Canadian Institutes for Health Research (CIHR) i ymchwilio i brosesau a chanlyniadau gweithredu drwy ymchwil dulliau cymysg.   

Mae’r Athro Rycroft-Malone wedi bod yn aelod o nifer o grwpiau datblygu strategaeth rhyngwladol a chenedlaethol, yn ogystal â grwpiau cyllido, yn cynnwys 'Grŵp Agenda Ymchwil i Effeithiolrwydd Clinigol’ Prif Swyddog Meddygol Lloegr, sy’n gosod yr agenda ar gyfer cyllido ymchwil weithredu bresennol.  Ar hyn o bryd mae'n aelod o fwrdd comisiynu'r NIHR Service Health Services Research and Delivery Programme a’r Canadian Institute for Health’s Research Knowledge Translation Research Funding Committee. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ac wedi rhoi papurau mewn nifer sylweddol o gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol ym maes gofal iechyd.  Hi hefyd yw golygydd cyntaf Worldviews on Evidence-Based Nursing.

Meddai, “Dwi’n hynod falch o gael fy mhenodi’n gadeirydd newydd Grŵp Strategaeth Weithredu NICE.  Mae NICE yn datblygu canllawiau a safonau wedi’u seilio ar dystiolaeth i’r GIG, felly mae’n bwysig bod y rhain yn cael eu defnyddio.  Mae gan y Grŵp Strategaeth Weithredu ran allweddol i’w chwarae yn yr agenda hon oherwydd mae’n rhoi cyngor i NICE ynghylch dulliau a strategaethau gweithredu defnyddiol ac effeithiol.  Dwi’n teimlo’n gyffrous ynghylch potensial y swydd hon a chryfhau gwaith NICE drwy’r Grŵp Strategaeth Weithredu."

Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2012