Datblygu nyrsio anabledd dysgu - adroddiad cynhadledd

Liz GouveiaLiz GouveiaLois WigginsLois Wiggins
Dan arweiniad Liz Gouveia a Lois Wiggins, myfyrwyr nyrsio anabledd dysgu o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor cynhaliwyd gweithdy yng nghynhadledd DU ac Iwerddon 'Byw'r Ymrwymiad' yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2016.

Roedd y gweithdy yn canolbwyntio ar ystyried gyrfaoedd nyrsio anabledd dysgu ac fe ysbrydolwyd y myfyrwyr gan ymrwymiad y cyfranogwyr i ddatblygu eu hymarfer a'u gyrfaoedd yn y dyfodol.

Gweler yr adroddiad yn ei gyfanrwydd yng nghylchgrawn y Coleg Nyrsio Brenhinol  ‘Learning Disability Practice’ cyhoeddiad Mehefin 2017: http://journals.rcni.com/doi/abs/10.7748/ldp.20.3.15.s19

Williams, R.W., Gouveia, L. & Wiggins, L. (2017) Developing learning disability nursing. Learning Disability Practice, 20(3), 15.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2017