Cyfarfod Iechyd a Lles
Mae'n ffaith wybyddus fod pobl gydag anableddau dysgu'n wynebu anghydraddoldeb ym maes gofal iechyd, yn dioddef oddi wrth iechyd gwaelach na'u cymheiriaid nad ydynt yn anabl, ac yn wynebu rhwystrau o ran cael mynediad amserol a phriodol at wasanaethau.
Ar ran Grŵp Llywio Cymru Gyfan i Gryfhau'r Ymrwymiad, cynhaliodd yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ddigwyddiad gwrando a rhannu gyda phobl gydag anabledd dysgu, teuluoedd, gofalwyr a budd-ddeiliaid eraill. Diben y diwrnod, ar 11 Mai 2016, oedd rhannu gwybodaeth ynghylch mynediad at ofal iechyd a nodi pa wasanaethau ac adnoddau sydd ar gael i bobl gydag anabledd dysgu.
Agorwyd y cyfarfod gan Sue Beacock, Swyddog Nyrsio gyda Llywodraeth Cymru, a dynnodd sylw at bwysigrwydd gwrando ar y profiadau er mwyn gwella a goleuo dulliau gweithredu yn y dyfodol. Fe wnaeth Yr Athro Ruth Northway o Brifysgol De Cymru drafod Strengthening the Commitment, sef adroddiad yr Adolygiad ar Foderneiddio Nyrsio Anableddau Dysgu yn y Deyrnas Unedig.
Yn ystod y dydd cafwyd cyflwyniadau a gweithgareddau bwrdd gwaith. Cyflwynwyd y pecyn gofal anabledd dysgu, 1000 Lives, a phwysigrwydd cael gwiriadau iechyd blynyddol, gan Dîm Cyswllt Iechyd BIPBC. Rhannodd y grŵp ymchwil cynhwysol Question-Aires ganlyniadau eu hastudiaeth ar Fwyta'n Iach. Rhoddwyd derbyniad gwresog i gyflwyniad diddorol gan Jane Williams ac Ifan Williams (nyrsys anabledd dysgu gyda BIPBC) ar ddefnyddioldeb defnyddio llyfrau, Tu Hwnt i Eiriau / Beyond Words, i lunio naratifau ar y cyd a chael pobl i sgwrsio am faterion iechyd. Cyflwynwyd y project Check 4 Change gan Tracy Lloyd, nyrs arbenigol anabledd dysgu gyda MacMillan a Wendy Thomason o Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin. Mae'r project yn rhoi addysg ac ymwybyddiaeth iechyd yn uniongyrchol yn nwylo pobl gydag anabledd dysgu, gan alluogi pobl i ddysgu am bwysigrwydd sgrinio cynnar am ganser a gwella profiadau a chanlyniadau i bobl ag anabledd dysgu y mae canser wedi effeithio arnynt. Rhannodd Simon Meadowcroft, Nyrs Cyswllt Iechyd Meddwl gyda BIPBC, ei brofiad o weithio gydag unigolion i greu Storiau Cleifion a all olueo dulliau ymarfer yn y dyfodol. Aeth Georgina Hobson a Carrie Sheild (nyrsys anabledd dysgu yn BIPBC) ati i rannu eu harbenigedd ar swyddogaeth therapiwtig nyrsys anabledd dysgu a'r ystod o therapïau y mae nyrsys yn ymwneud â'u darparu.
Gan ddefnyddio trefn bleidleisio electronig, cafodd y diwrnod ei werthuso gan Gary Costa ac Anthony Green o Mencap Cymru. O'r 82 o gynadleddwyr a ddaeth i'r achlysur, nododd pob un ohonynt eu bod wedi mwynhau'r diwrnod a dywedodd 98% y byddent eisiau dod i ddigwyddiad arall ar Iechyd a Lles.
Fe wnaeth Ruth Wyn Williams o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, a hwylusodd y diwrnod, ddiolch i'r staff nyrsio anabledd dysgu o BIPBC am gynorthwyo gyda chynllunio a threfnu'r digwyddiad ac i fyfyrwyr nyrsio anabledd dysgu Prifysgol Bangor am gynorthwyo ar y diwrnod. Cefnogwyd y digwyddiad gan yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru, gwasanaeth nyrsio anabledd dysgu BIPBC, Books Beyond Words, Mencap Cymru, Macmillan a Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2016