Darlith Gyhoeddus ar Iechyd a Lles, Cyfres Tri: ymchwil diweddaraf ar anableddau dysgu
Rhoi’r cyfle i’r gymuned glywed am yr ymchwil diweddaraf ar anableddau dysgu
Cynhelir darlith ar anableddau dysgu yn Venue Cymru am 6pm ar 15 Ionawr 2013. Mae’r gyfres o ddarlithoedd yn rhad ac am ddim, ar agor i’r cyhoedd, ac yn cynnwys lluniaeth, cyfle i rwydweithio a thystysgrif bresenoldeb.
Yn y sesiwn hon ceir dau gyflwyniad byr gan Dr Richard Hastings, Cyfarwyddwr Ymchwil y cwrs hyfforddi seicolegwyr clinigol ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar gyflwyno gwybodaeth ymchwil yn deillio o astudiaethau poblogaeth yn y DU a chymharu teuluoedd plant gydag anableddau deallusol ac/neu awtistiaeth â theuluoedd eraill a gweld beth all yr ymchwil hwn ddweud am ganlyniadau cadarnhaol i aelodau'r teulu.
Traddodir yr ail ddarlith gan Sally Rees. Cyn ail-gyflunio’r GIG yng Nghymru, roedd yn aelod gofalwr nad oedd yn swyddog ac yn arwain y gwasanaeth i blant a phobl ifanc ym Mwrdd Iechyd Wrecsam gynt. Bydd ei chyflwyniad yn trafod cyfraniad gweithwyr allweddol cyfnodau pontio at gefnogi pobl ifanc anabl rhwng 14 a 25 oed yng Nghymru, yn ogystal â materion pontio eraill sy'n effeithio ar bobl ifanc anabl. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau i’r cyflwynwyr a derbyn sylwadau.
Hon yw’r drydedd ddarlith yn y drydedd gyfres o Ddarlithoedd Iechyd a Lles. Mae’r darlithoedd yn cyflwyno ymchwil blaengar ar bynciau iechyd a lles mewn ffordd gyfeillgar a hygyrch. Fe’u trefnir gan Ganolfan Sgiliau CADARN, partneriaeth rhwng Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Glyndŵr a’r Brifysgol Agored, ac fe’u cefnogir gan Goleg Llandrillo Menai a’r National Leadership & Innovation Agency for Healthcare (NLIAH).
Er bod y digwyddiadau am ddim, mae cofrestru’n hanfodol er mwyn cadw eich lle. Cofrestrwch drwy gysylltu â Chanolfan Sgiliau CADARN ym Mhrifysgol Bangor ar 01248 365918 neu cadarnskillscentre@bangor.ac.uk neu ewch i'r wefan http://cadarnskillscentre.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth am y gyfres ddarlithoedd a'r ganolfan.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2013