Staff a myfyrwyr yn cael ras Dreigiau i godi arian i Hosbis Dewi Sant!

Cafodd yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ddiwrnod gwych pan gynhaliwyd yr Her Cychod Draig Hosbis Dewi Sant ar Lyn Padarn yn Llanberis. Roedd 22 o dimau yn cystadlu yn yr her a oedd yn cynnwys dau dîm o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, sef un tîm staff ac un tîm myfyrwyr. Roedd y cychod yn rasio mewn parau gyda'r staff yn erbyn y myfyrwyr. Cafwyd llawer o herian am wythnosau ymlaen llaw gyda lluniau a fideos o'r timau yn ymarfer yn ymddangos ar twitter felly bu cystadlu brwd. Gwnaed ymdrech lew gan y ddau dîm ac er mai tîm y staff oedd yn fuddugol, dim ond llai na hanner eiliad oedd rhyngddyn nhw â thîm y myfyrwyr. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Hyd yma maent wedi codi tua £1500 i Hosbis Dewi Sant sy'n darparu gofal lliniarol a diwedd oes arbenigol am ddim yn ein cymuned. Yn ogystal â chodi arian, llwyddodd yr her i gael staff a myfyrwyr i ymwneud â'i gilydd tu allan i'r byd academaidd gyda phwrpas, brwdfrydedd, ymarfer a hwyl ac roedd yn ffordd wych o gael pawb i weithio fel tîm. Cafwyd llawer o hwyl a chwerthin yn ystod y diwrnod a dangosodd tîm y myfyrwyr, oedd wedi eu gwisgo fel Arch Noa, eu bod yn gollwyr da trwy rwyfo i'r lan ar ddiwedd y ras dan ganu 'rhibidirês, rhibidirês, i mewn i'r arch â nhw!'

Bydd yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn parhau i ddatblygu cysylltiad gyda Hosbis Dewi Sant gan ei bod yn ddiweddar wedi penodi swydd bartneriaeth 'Darlithydd Gofal Lliniarol a Diwedd Oes Hosbis Dewi Sant', ac yn edrych ymlaen at gysylltiad agos yn y dyfodol. Mae'r cyswllt ‘just giving’ yn agored tan ddiwedd Gorffennaf i'r rhai fyddai'n hoffi cyfrannu:  http://www.stdavidshospice.org.uk/event/dragonboatchallenge2017/

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dywedodd capten y staff, Benjamin Turton, sef Darlithydd Gofal Lliniarol a Diwedd Oes Hosbis Dewi Sant, "Roedd yn ddiwrnod gwych ac yn dangos beth sy'n arbennig am Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Bangor, sef yr awyrgylch cyfeillgar a chefnogol rhwng staff a myfyrwyr a’u bod eisiau gwneud yr hyn sydd ei angen i gefnogi gofal iechyd yn y gymuned leol, boed trwy ymchwil, perfformiad ein graddedigion neu godi arian. Deallaf fod cynlluniau ar y gweill eisoes ar gyfer y flwyddyn nesaf ac rwy'n gobeithio ennill cwpan bryd hynny!"

Ychwanegodd Pennaeth yr Ysgol, Chris Burton, "Hoffwn ddiolch i bawb wnaeth ein noddi a diolch arbennig i'r rhai fu'n cymryd rhan, yn arbennig y myfyriwr nyrsio yn yr ail flwyddyn, Teleri Roberts a drefnodd tîm y myfyrwyr. Rydym yn edrych ymlaen yn barod at gystadlu’r flwyddyn nesaf!" 

Tîm y staff

  1. Capten Benjamin Turton
  2. Rob Couch
  3. Patricia Masterson Algar
  4. Beryl Cooledge
  5. Sion Williams
  6. Alison Lester Owen
  7. Tania Seale
  8. Andrew Walker
  9. Peter Westmoreland
  10. Jo Rycroft Malone
  11. Alan Thomas
  12. Jude Field
  13. Becki Law
  14. Sara Elloway
  15. Katherine Algar-Skaife
  16. Gemma Prebble
  17. Gwerfyl Roberts

Tîm y myfyrwyr

  1. Capten Teleri Roberts
  2. Luke Daniel Parry
  3. Beth McAdam
  4. Kirsty Anna Harrington
  5. Steven Peter Loughead
  6. Adam Benjamin Monaghan
  7. Molly Elizabeth Jones
  8. Naomi Maguire
  9. Rhianna Walton
  10. Amanda Dawn Wilkinson
  11. Philippa Matthews
  12. Hannah Jade Taylor
  13. Sara Ruth Finkel
  14. Lisa Williams
  15. Victoria Louise Franklin
  16. Sean Bray
  17. Sophie Burgess
  18. Rebecca Louise Galeandro
  19. Qureimah Macko Jones
  20. Clare Crowley
  21. Heini Williams
  22. Jayne Bayliss
  23. Nia Chafe 

Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2017