Prosiect 'Bydd Yfory yn Ddiwrnod Da' yn gweld gwaith celf y cyhoedd yn cael ei arddangos mewn ysbytai lleol

Yn ystod y cyfnodau clo yn sgil y pandemig, gwnaed cannoedd o galonnau tecstilau hardd gan y cyhoedd ar gyfer cleifion Covid-19 a'u teuluoedd a'u hanfon i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Roedd rheolaethau heintiau yn golygu nad oedd modd dosbarthu'r calonnau ar y wardiau, ond nawr i anrhydeddu'r gwaith a'r teimlad a aeth i'r calonnau, maent yn cael eu gwneud yn weithiau celf parhaol i'w harddangos mewn chwe ysbyty lleol.

Ar hyn o bryd mae'r calonnau'n cael eu haenu i greu siapiau calon mawr, gydag elfennau 3D, yn dangos manylion hyfryd pob un gan yr artist tecstiliau a myfyriwr MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd ym Mhrifysgol Bangor, Laura Cameron.

Dros yr haf bydd y gweithiau celf yn cael eu cwblhau, eu fframio a'u danfon i'r chwe ysbyty, i'w harddangos fel teyrngedau i'r rhai a gollwyd ac a adferwyd yn ogystal â'r gwasanaeth rhyfeddol a ddarperir gan lawer o weithwyr y GIG.

Meddai Laura, "Mae'r calonnau hyn sydd wedi eu gwau, gwnïo, crosio a ffeltio yn ymateb teimladwy i salwch a phrofedigaeth ynghyd â gobeithion am ddyfodol gwell. Mae'r haelioni a'r cariad sydd wedi dywallt i mewn i bob un o'r calonnau hyn gan bobl hyfryd i ddangos i bod rhywun yn meddwl amdanynt, yn ddyrchafol ac yn ingol."

Gwneir y gweithiau celf hyn yn bosibl trwy gefnogaeth Cronfa Syr Capten Tom Moore.

Gellir gweld fideo yn cynnwys Laura yn trafod y prosiect yma.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2021