Full-time PhD Studentship

Tâl blynyddol: £14,000 y flwyddyn a ddarperir gan Drapers; telir y ffioedd goruchwylio gan y Brifysgol

PhD tair blynedd llawn-amser yn canolbwyntio ar:

Ailddarganfod tosturi a chydymdeimlad yn y gweithlu nyrsio: integreiddio estheteg i addysg a hyfforddiant nyrsio er mwyn gwella arferion gofal dementia.

Mae darparu gofal technegol o gymhlethdod cynyddol, ac ar yr un pryd gynnal dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y person a'r teulu yn y gwasanaethau dementia, yn gofyn am agweddau creadigol at addysg a hyfforddiant proffesiynol. Gall estheteg, megis defnyddio drama, celf a cherddoriaeth fod yn gatalydd i fyfyrio'n ddyfnach ar yr hunan, ac ar y modd y gellir defnyddio hynny'n emosiynol mewn sefyllfaoedd clinigol. O ganlyniad gall ymgorffori estheteg i raglenni datblygiad proffesiynol hyrwyddo clinigwyr i fynd i'r afael â'r broses o ddeall hunaniaeth bersonol, a'u hwyluso i ddarparu gofal tosturiol mewn cyd-destunau fel gofal lliniarol a gofal diwedd oes mewn ysbytai prif ffrwd a gwasanaethau cymunedol.

Mae Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth â’r gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru i gynllunio a chyflwyno ffyrdd newydd a fydd yn gwella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru. Mae'r cyfle PhD hwn, a gefnogir gan y Drapers’ Company, yn enghraifft o'r cydweithio hwnnw, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu dulliau gweithredu arloesol ym maes gofal clinigol a fydd yn arwain at fudd uniongyrchol i brofiad y claf. 

Cefnogir yr ymgeisydd llwyddiannus i lunio rhaglen ddoethur a fydd yn datblygu a gweithredu set o ddulliau newydd a chreadigol yn ymwneud â datblygu’r gweithlu a’r sefydliad, a fydd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol i werthuso'n feirniadol a datblygu eu cyfraniad i ofal dementia. Mae gan y PhD hwn y potensial i gael effaith sylweddol ar ansawdd gofal iechyd, ac mae'n ategu rhaglenni ymchwil eraill yr Ysgol sy'n ymdrin ag ansawdd mewn gofal iechyd, gan gynnwys y rhyng-gysylltiad rhwng estheteg a gofal iechyd.

Mae’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn cynnig cartref bywiog a chefnogol i'n myfyrwyr ymchwil dan ofal tîm o oruchwylwyr academaidd; gofod swyddfa pwrpasol; seminarau a chynadleddau; a hyfforddiant mewn ymchwil ac arweinyddiaeth. Mae ein strategaeth ymchwil ar ffurf rhaglenni, yn cwmpasu amrediad o themâu methodolegol a chlinigol, ac yn cynnwys rhaglen mewn gofal dementia. Mae ein darpariaeth ymchwil yn cynnwys Uned Treialon Clinigol sydd wedi'i hachredu'n llawn; Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru, a'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau.

Am wybodaeth bellach neu drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r cyfle i ddilyn y PhD llawn-amser hwn fel rhan o'r bartneriaeth gyda Drapers Company, cysylltwch os gwelwch yn dda â: 

Dr Siôn Williams
Uwch ddarlithydd / Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-radd trwy Ymchwil
Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd
01248-388451
E-bost:hss042@bangor.ac.uk 

Dyddiad cau: 30 Tachwedd 2014

Er mwyn gwneud cais cwblhewch y ffurflen gais am PhD os gwelwch yn dda a nodwch fod y cais yn ymwneud â chyllid a ddarperir gan Drapers:

http://www.bangor.ac.uk/ar/main/indices/prospective_pg_apply.php.en

Cofiwch ddarllen y Nodiadau Canllaw ar ymgeisio ar-lein cyn dechrau ar eich cais. Ar ôl i chi ddarllen y Nodiadau Canllaw, dylech wneud eich cais gan ddefnyddio ein Gwasanaeth Derbyniadau Ar-lein.

I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor ar wneud cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyniadau Ôl-raddedig:

e-bost: postgraduate@bangor.ac.uk
Ffôn: (01248) 383762

Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2014