Astudiaeth yn edrych ar nifer ymweliadau â Meddyg Teulu cyn y caiff cleifion canser eu cyfeirio at arbenigwyr

Astudiaeth yn edrych ar nifer ymweliadau â Meddyg Teulu cyn y caiff cleifion canser eu cyfeirio at arbenigwyr 

Mae gwybodaeth am gleifion yn dangos mai ymysg merched, pobl ifanc, lleiafrifoedd ethnig a phobl gyda chanserau llai cyffredin y ceir y nifer uchaf o ymweliadau cyn-gyfeirio 

 Mae gwaith gan academydd profiadol o Brifysgol Bangor wedi cyfrannu at ymchwil sy’n dangos pa mor aml y mae pobl yn ymweld â’u meddygon cyn cael diagnosis canser. 

Mae astudiaeth newydd wedi darganfod bod dros dri chwarter  (77%) cleifion canser sy’n dod i weld eu meddyg teulu’n gyntaf gyda symptomau amheus yn cael eu cyfeirio at ysbyty ar ôl dim ond un neu ddau ymgynghoriad. Fodd bynnag, mae’r ymchwil newydd yn dangos amrywiaeth eang hefyd o ran ymweliadau cleifion â chanser â’u meddyg teulu cyn iddynt gael eu cyfeirio at arbenigwr. Ceir y nifer mwyaf o ymgynghoriadau cyn-gyfeirio gyda mathau llai cyffredin o ganser, neu pan mae’r claf yn fenyw, yn ifanc, neu’n rhywun hŷn o leiafrif ethnig. Cyhoeddwyd yr ymchwil heddiw, 24 Chwefror, yn y cyfnodolyn The Lancet Oncology.

 Darganfu’r astudiaeth bod cleifion gyda chanserau’r fron, melanoma, y ceilliau ac endometrial yn fwy tebygol o gael eu cyfeirio at arbenigwr ar ôl un neu ddau ymgynghoriad. Fodd bynnag, mae cleifion gyda mathau llai cyffredin o ganser, megis myeloma lluosog, canser y pancreas, y stumog a’r ofarïau, yn ogystal â chleifion gyda chanser yr ysgyfaint a’r colon, yn fwy tebygol o ymweld â’u meddyg teulu dair neu fwy o weithiau cyn cael eu cyfeirio at arbenigwr mewn ysbyty. Mae cleifion gyda myeloma lluosog, canser yn y gwaed sy’n eithriadol anodd ei ganfod gan ei fod yn debyg i lawer o gyflyrau eraill, 18 gwaith yn fwy tebygol o fod angen tair neu fwy o ymweliadau â’u meddyg teulu o’i gymharu â chleifion gyda chanser y fron. 

 “Mae’r darganfyddiadau yma’n dangos y cyfyngiadau mewn gwybodaeth wyddonol gyfredol am y canserau hyn,” meddai’r prif ymchwilydd, Dr Georgios Lyratzopoulos, Uwch Gymrawd Ymchwil Clinigol ym Mhrifysgol Caergrawnt, a fu’n arwain yr ymchwil . “Yn ystod y degawdau diweddar mae ymchwil feddygol wedi rhoi sylw i wella triniaethau canser, ond mae gwybodaeth ar ganfod symptomau canserau cyffredin ac atebion ymarferol o ran eu diagnosio yn dal i ddatblygu. Gobeithio y bydd ein hymchwil yn ysgogi buddsoddi mewn ymchwil ar wella’r dulliau o ganfod canserau fel y gellir cyfeirio cleifion yn gynt at arbenigwyr.”

Darganfu’r ymchwilwyr hefyd bod canfod canser yn fwy o her ymysg cleifion ifanc, merched a chleifion hŷn o leiafrifoedd ethnig. Gwyddys bod pob un o’r tri grŵp hyn mewn llai o risg o ddatblygu canser o’u cymharu â chleifion hŷn, gwrywaidd a gwyn yng ngwledydd Prydain.

Mae’r darganfyddiadau hyn yn adlewyrchu patrymau cyffelyb ymysg cleifion canser a gymerodd ran mewn arolwg cyffelyb yn 2000.  Cyd-awdur yr arolwg hwnnw oedd  Dr Richard Neal, Uwch Ddarlithydd mewn Ymarfer Clinigol ym Mhrifysgol Bangor. Meddai Dr Neal : “Gall y ffaith y gall canfod canser fod yn fwy o her ymysg rhai grwpiau o gleifion, ac yn achos rhai canserau, ein helpu i addasu ymdrechion diagnostig ar eu cyfer. Bydd y darganfyddiadau'n cael eu defnyddio hefyd yn fersiwn ddiwygiedig NICE o’r Guidelines for Referral of Suspected Cancer,  a fydd yn cael dylanwad pwysig ar bolisi ac ymarfer."

Cynigiodd yr ymchwilwyr rai esboniadau pam roedd rhai grwpiau cleifion yn llai tebygol o gael eu cyfeirio’n ddiymdroi: 

  • Gan fod gwahaniaethau ymysg lleiafrifoedd ethnig i’w weld yn unig ymysg cleifion hŷn, mae’n debygol y gall anawsterau cyfathrebu fod yn gyfrifol.  
  • Yn achos canser y bledren, roedd merched ddwywaith yn fwy tebygol na dynion i fod angen tri ymgynghoriad neu fwy gyda’u meddyg cyn i benderfyniad gael ei wneud i’w cyfeirio at ysbyty. Mewn merched, gall fod anawsterau i wahaniaethu rhwng symptomau ac arwyddion o ganser y bledren a chyflyrau gynaecolegol nad ydynt yn ganser neu haint ar y bledren. 
  • Gan fod pobl ifanc yn llai tebygol o gael canser, mae’r ymchwilwyr o’r farn bod meddygon teulu’n llai tebygol o ystyried canser fel posibilrwydd.

Defnyddiodd yr ymchwil ddata dros 41,000 o gleifion gyda 24 o wahanol fathau o ganser a gymerodd ran yn yr  English National Cancer Patient Experience Survey 2010. (Mae llywodraeth Prydain wedi nodi bod profiad cleifion yn agwedd hollbwysig ar fesur ansawdd gofal.) Fe wnaeth yr ymchwilwyr edrych ar amrywiad yn nifer ymgynghoriadau â meddygon teulu ynghylch symptomau canser cyn i gleifion gael eu cyfeirio at ysbyty i weld a oedd canser arnynt ai peidio.  

Er y gall meddygon gael pryderon ynghylch cywirdeb data a gafwyd gan gleifion, mae gennym resymau da dros gredu yn nilysrwydd ein darganfyddiadau,”  meddai’r cydawdur, Greg Rubin, Athro Ymarfer Cyffredinol a Gofal Sylfaenol ym Mhrifysgol Durham. “Y rheswm am hyn yw eu bod yn cyd-fynd yn dda â data a gasglwyd gan feddygon teulu a gymerodd ran yn yr Archwiliad Cenedlaethol i Ddiagnosis Canser mewn Gofal Sylfaenol. Rydym yn gobeithio y symudir ymlaen yn sylweddol tuag at ganfod canser yn gynt trwy ddefnyddio profiad cleifion a data archwilio clinigol.”

Er mwyn gwella cyfeirio cleifion yn gynt, mae’r astudiaeth yn gwneud argymhellion i glinigwyr a rhai sy’n llunio polisïau. Yn achos clinigwyr, mae’n tynnu sylw at yr angen i fod yn fwy ymwybodol o rai o’r grwpiau cleifion a’r canserau sy’n tueddu i gael diagnosis arafach, a’r angen i gymryd rhan mewn casglu data er mwyn meincnodi eu dulliau gweithredu. Maent yn awgrymu hefyd y dylai gwneuthurwyr polisi ‘edrych ar y wybodaeth sydd gan feddygon i’w galluogi i ymyrryd yn gynnar, datblygu ymhellach offer a phrofion i gyfrifo risg a gwneud diagnosis, ac ail-gynllunio systemau fel y gellir defnyddio profion diagnostig (fel delweddu neu endoscopi) yn fwy priodol ac amserol.’   

Er mai ym Mhrydain y mae’r ymchwilwyr hyn yn gweithio, maent o’r farn bod eu darganfyddiadau o bwys i wledydd eraill yn ogystal, gan eu bod yn adlewyrchu anawsterau cyffredinol yn ymwneud â chanfod canserau sydd â symptomau ac arwyddion amhenodol. Mae’r rhan fwyaf o gleifion y darganfyddir wedyn bod canser arnynt yn gweld meddyg yn y gymuned yn gyntaf, waeth lle maent yn byw.  

Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2012