Trosi economeg iechyd cyhoeddus yn bolisi ac yn rhan o ymarfer

Awduron yr adroddiad:Trawsnewid Bywydau Pobl Ifanc - y ddadl economaidd dros fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar, yr Athro Rhiannon Tudor Edwards a'r ci tywys, Jazz, Lucy Bryning (chwith) a Huw Lloyd Williams (dde).Awduron yr adroddiad:Trawsnewid Bywydau Pobl Ifanc - y ddadl economaidd dros fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar, yr Athro Rhiannon Tudor Edwards a'r ci tywys, Jazz, Lucy Bryning (chwith) a Huw Lloyd Williams (dde).Wrth ymateb i ymgynghoriad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad ar ‘Y 1,000 Diwrnod Cyntaf’ mae un sy’n arbenigo mewn economeg iechyd cyhoeddus wedi tynnu sylw at ymchwil sy’n awgrymu y gallai buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar arbed miliynau o bunnoedd ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’r Athro Rhiannon Tudor Edwards, cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaeth ym Mhrifysgol Bangor, a’i chydweithwraig, Lucy Bryning, sy’n swyddog ymchwil ar ddechrau ei gyrfa yn y ganolfan, wedi ymateb i’r alwad am dystiolaeth ysgrifenedig i ymgynghoriad ‘Y 1,000 Diwrnod Cyntaf’. Yn eu hymateb maent yn tynnu sylw at eu hadroddiad diweddar, sef “Gweddnewid Bywydau Ifanc ledled Cymru: Golwg ar y Ddadl Economaidd o blaid Buddsoddi yn y Blynyddoedd Cynnar”. Cefnogwyd yr adroddiad â chyllid gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a chafodd ei lansio fis Hydref yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (Ymchwil ag Effaith) yng Nghaerdydd. Cafodd hefyd sylw ar BBC Cymru.

Yn dilyn adolygu’r dystiolaeth economaidd sydd ar gael, daw’r adroddiad i’r casgliad y gallai symud tuag at ddefnyddio dulliau ataliol a buddsoddi’n gynnar yn ystod oes plentyn arbed miliynau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol, maent yn dadlau mai buddsoddi yng nghyfnod hollbwysig y blynyddoedd cynnar, gan ddechrau yn y cyfnod cyn cenhedlu ac yna yn ystod beichiogrwydd cynnar, fyddai’r defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau cyhoeddus. Byddai gwneud hynny’n cynnig gwerth ymhell y tu hwnt i fathau eraill o fuddsoddi ariannol ar draws yr economi a buddsoddi mewn cyfnodau eraill yn ystod oes plentyn.

Mae’r ganolfan wedi bod yn gweithio ar hwyluso sut mae trosi ymchwil economaidd mewn modd effeithiol yn bolisi ac yn rhan o ymarfer ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.  Fis Tachwedd,  gwahoddwyd Rhiannon i’r Senedd i fod yn ymgynghorydd arbenigol i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad wrth iddynt graffu ar y gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-2018. Nod y Pwyllgor yw ‘dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar wariant, gweinyddiaeth a pholisi, gan gynnwys yn y meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):  iechyd a lles corfforol, meddyliol a chyhoeddus pobl Cymru, gan gynnwys  y system gofal cymdeithasol’. Roedd Rhiannon yn annog y pwyllgor i groesawu symudiad tuag at iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cael eu harwain gan y gymuned ac sydd â phwyslais ar atal, a hynny ar sail economaidd.

Nod y ganolfan, sydd bellach yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor, yr Ysgol Gwyddorau Iechyd o fewn Coleg y Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad yw hybu a chynnal ymchwil ag effaith o’r safon uchaf i faes economeg iechyd.

Dilynwch y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaeth ar Twitter: @CHEMEBangor 

Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2017