Myfyrwyr a staff Bangor ar y rhestr fer yng Ngwobrau 2019 y Student Nursing Times

Mae dau fyfyriwr a dau ddarlithydd o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor wedi cael eu rhoi ar y rhestr fer am nifer o wobrau'r Student Nursing Times eleni.

Dywedodd Yr Athro Chris Burton, Pennaeth yr Ysgol, "Rwyf wrth fy modd bod dau o'n myfyrwyr wedi cael eu cydnabod yn y rhestr fer am y gwobrau hyn am eu hymroddiad mawr i'w meysydd.

"Hoffwn hefyd longyfarch yn fawr y ddau aelod staff sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i'w timau dysgu, profiad myfyrwyr a'r ysgol yn ehangach."

Dyma'r rhai sydd ar y rhestr fer am wobrau:

Addysgwr y Flwyddyn: Stephen Prydderch

Addysgwr y Flwyddyn: Julie Roberts

Cyfraniad Eithriadol i Faterion Myfyrwyr: Nicola Williams

Myfyriwr Nyrsio'r Flwyddyn: Anabledd Dysgu: Kate Young

Cafodd Julie Roberts, darlithydd mewn bydwreigiaeth, ei rhoi ar y rhestr fer am wobr addysgwr y flwyddyn ar ôl cael ei henwebu gan rai o'i myfyrwyr, "Roedd yn syrpreis hyfryd cael gwybod fy mod ar y rhestr fer am Wobr Addysgwr y Flwyddyn y Nursing Times, ac mae'n golygu llawer mwy mai'r myfyrwyr eu hunain wnaeth fy enwebu.

Dwi’n edrych ymlaen i gynrychioli'r Ysgol yn y digwyddiad sydd i ddod, a gobeithio y gallwn ddod â'r wobr adref!"

Roedd Nicola Williams wrth ei bodd o fod yn y rhestr fer "Rydw i mor falch o gael fy rhoi ar y rhestr fer am yr enwebiad. Dwi'n falch o fod yn cynrychioli Prifysgol Bangor ac rydw i wedi mwynhau helpu i wella pethau i fyfyrwyr yma yng Ngampws Wrecsam.

"Rydw i wedi mwynhau cwrdd â darpar fyfyrwyr a bod yn arweinydd cyfoed yn helpu myfyrwyr newydd i ymgartrefu. Fel cydlynydd digwyddiadau y gymdeithas nyrsio, dwi wedi mwynhau trefnu digwyddiadau ar gyfer myfyrwyr ar Gampws Wrecsam, gan gynnwys ein dawns gwyddorau gofal iechyd. Hoffwn ddiolch i'm tiwtor personol Dianne am gymryd yr amser i'm henwebu."

Darlithydd Nyrsio Oedolion yw Stephen Prydderch ac mae'n gweithio o gampws yr ysgol yn Wrecsam, "Mae'n rhoi gwefr eithriadol i mi bod y myfyrwyr yn teimlo fy mod yn haeddu fy enwebu am un o wobrau'r Student Nursing Times.

"Doeddwn i ddim yn disgwyl hyn o gwbl, ond dwi'n falch iawn o gynrychioli ein hysgol, a dwi'n sylweddoli fod fy nghyfraniadau i ddysgu a gwella profiad y myfyrwyr yn adlewyrchiad o gyfraniadau ehangach ein tîm dysgu rhagorol"

Mae hyn yn dilyn cyfres o staff a myfyrwyr o'r ysgol yn cael eu rhoi ar y rhestr fer am wobrau mewn blynyddoedd blaenorol, yn cynnwys y llynedd pan roddwyd saith o fyfyrwyr ar y rhestr fer am wahanol wobrau, a phryd yr enillodd Laura Thomas y wobr am Fyfyriwr Bydwreigiaeth y Flwyddyn.

Cyhoeddir enillwyr y gwobrau ddydd Iau 26 Ebrill 2019 mewn seremoni wobrwyo yn Llundain, ac mae'r Ysgol yn dymuno'r gorau i'n holl staff a myfyrwyr a enwebwyd.

Mae rhestr fer lawn 2019 i'w gweld yma - https://studentawards.nursingtimes.net/2019-shortlist /2019-shortlist

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2019