Myfyrwraig Nyrsio yn derbyn Tystysgrif Sgiliau yn yr Iaith Gymraeg gyda rhagoriaeth

Yn ystod derbyniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yr wythnos ddiwethaf cyflwynwyd Tystysgrif Sgiliau yn yr Iaith Gymraeg gyda rhagoriaeth i Elain Fôn Jones, myfyriwr ail flwyddyn sy'n astudio nyrsio rhai ag anableddau dysgu. Cyflwynwyd y dystysgrif iddi gan Andrew Green, Cadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.   Mae'r dystysgrif yn galluogi Elain i ddangos tystiolaeth i gyflogwyr o'i gallu i gyfathrebu'n hyderus a phroffesiynol yn Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.  

Yn y llun gwelir Elain yn derbyn y dystysgrif ac meddai, “Dwi’n falch iawn o dderbyn y dystysgrif gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan ei bod i mi yn dangos y pwysigrwydd fod gan bob claf yr hawl i siarad a cyfathrebu yn eu hiaith gyntaf gydag unrhyw nyrs neu berson proffesiynol o fewn y tîm gofal iechyd. Gall cyfathrebu fod yn dasg anodd i rai unigolion sydd ag anableddau dysgu, neu hebddynt, felly pam ei wneud yn anoddach? Mae’n bwysig parchu dewis iaith pawb."

Dywedodd yr Athro Jo Rycroft-Malone, Pennaeth yr Ysgol, "Rwy'n falch iawn o weld llwyddiant Elain yn cael ei gydnabod fel hyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'r Ysgol yn rhoi pwyslais mawr ar ein treftadaeth ddwyieithog yng Ngogledd Cymru a phwysigrwydd paratoi ein myfyrwyr i chwarae rhan allweddol mewn darparu gwasanaethau iechyd dwyieithog i gleifion a theuluoedd."

Mewn partneriaeth â'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cefnogi pedwar darlithydd i sicrhau bod mwy o gyfleoedd astudio ar gael i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Mae gwneud yr iaith Gymraeg yn elfen allweddol o addysg gofal iechyd yn ffordd o sicrhau y bydd gan weithlu'r dyfodol y wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau priodol i ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig Prif Ysgoloriaethau ac Ysgoloriaethau Ysgogol i gefnogi myfyrwyr nyrsio ym Mhrifysgol Bangor i gyflawni 33% i 66% o'u gradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Awst 2015