Mae'r garfan gyntaf o fyfyrwyr Ffisiotherapi PGDip yn cychwyn ar eu cwrs ym Mangor heddiw

Gyda phrinder ffisiotherapyddion yn aml, mae rheolwyr gwasanaeth ffisiotherapi a darpar fyfyrwyr yng Nghymru wedi croesawu datblygiad llwybr newydd i bobl gymhwyso fel ffisiotherapyddion.

Dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr ar y cwrs ôl-radd carlam newydd ym Mhrifysgol Bangor eu cwrs heddiw. Wedi'i anelu at raddedigion, mae'r cwrs hwn yn darparu dull amgen cyffrous o fynediad i'r proffesiwn o'i gymharu â'r dull israddedig sefydledig.

Comisiynwyd y rhaglen gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW). Mae’n gymar i'r rhaglen israddedig 3 blynedd ym Mhrifysgol Glyndŵr ac yn sicrhau llwybrau ffisiotherapi ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig ledled Gogledd Cymru.  

Cynlluniwyd y rhaglen fel ffordd effeithlon ac arloesol i ehangu mynediad i'r proffesiwn, gan barhau i ddarparu gweithlu ffisiotherapi o ansawdd uchel i'r Bwrdd Iechyd lleol a thu hwnt. 

Meddai Dr Lynne Williams, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Iechyd:

“Roeddwn yn falch iawn o weld ein carfan gyntaf o fyfyrwyr yn cyrraedd heddiw. Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo'n llwyr i gynnig rhaglen ffisiotherapi fel rhan o bortffolio yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ac mae'n croesawu'r datblygiad newydd hwn fel un o'r disgyblaethau allweddol ar gyfer hyrwyddo dysgu rhyngbroffesiynol i fyfyrwyr."

Yn siarad yn fuan wedi iddo gael ei benodi, dywedodd Jonathan Flynn, Arweinydd Cwrs Ffisiotherapi PGDip; 

“Dwi'n edrych ymlaen at arwain y rhaglen ffisiotherapi, gan weithio mewn partneriaeth agos ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru.  Fy ngobaith yw y bydd y cwrs yn tyfu ac yn dod yn rhan ganolog o'r cynllun strategol ar gyfer iechyd i Gymru gyfan, yn ogystal â darparu sylfaen gref i'w holl ddysgwyr yn y dyfodol fel eu bod nid yn unig yn datblygu i fod yn ffisiotherapyddion y dyfodol, ond yn arweinwyr gofal iechyd y dyfodol."

Croesawodd Nesta McCluskey, Pennaeth Ffisiotherapi (Dwyrain) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y myfyrwyr hyn gan ddweud;

“Rwy’n falch iawn bod cwrs Ffisiotherapi newydd yn dechrau yng Ngogledd Cymru. Bydd myfyrwyr yn treulio amser mewn llawer o'r gwahanol safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru lle byddant yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn gyrfa werth chweil ac amrywiol."

Darganfyddwch fwy am y cwrs yma.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Ionawr 2020