Mae myfyrwyr bodlon i’w cael ym Mhrifysgol Bangor

 

Mae Prifysgol Bangor yn parhau i gynyddu ei phoblogrwydd ymysg myfyrwyr. Mae’r Brifysgol wedi llwyddo i aros yn safle 14 ym Mhrydain, ac mae’r Brifysgol yn ail yng Nghymru mewn arolwg newydd ar brofiad myfyrwyr (Times Higher Education Student Experience Survey 2016).

Yn yr arolwg, a wnaed gan YouthSight  ar gyfer cylchgrawn y Times Higher Education, gofynnwyd i fyfyrwyr raddio’u profiad prifysgol yn ôl sawl mesur academaidd, cymdeithasol a chyffredinol, gan ystyried cynnwys addysgol eu graddau, cyfleusterau, yr awyrgylch cyffredinol ac a fyddent yn argymell y brifysgol i’w ffrindiau.

Mae Prifysgol Bangor ymysg y prifysgolion sydd yn perfformio orau o ran ‘staff sy’n barod i helpu/ dangos diddordeb’, gan ddod yn gydradd bumed yn y DU am y mesur yma, tra bod y mesur o staff o ansawdd uchel hefyd yn sgorio’n uchel, gyda’r ddau yn cadarnhau safon uchel y dysgu a gofal myfyrwyr gan ddarlithwyr y Brifysgol.

Roedd yr ymateb drwodd a thro gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn adlewyrchu ansawdd addysgol uchel y profiad dysgu, a’r gefnogaeth sydd yn atgyfnerthu profiad academaidd myfyrwyr y brifysgol. Roedd  ffactorau fel diogelwch, llety a chyfleusterau chwaraeon da i gyd yn sgorio’n uchel yn ogystal. Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor hefyd yn gwerthfawrogi’r amgylchedd da o amgylch y brifysgol,  y bywyd cymdeithasol da a’r  awyrgylch cymunedol braf, gan roi sgôr uchel i’r rhain i gyd.

Meddai’r Is-ganghellor, yr Athro John G. Hughes: “Rwyf unwaith eto’n falch iawn o’r perfformiad arbennig sydd yn tystio i’r profiad gwych y mae ein myfyrwyr yn ei gael yma ym Mhrifysgol Bangor.  Mae hyn yn dilyn blwyddyn ryfeddol i Fangor, pryd y cafodd ei rhoi ymysg y 100 prifysgol uchaf yn y byd o ran ei golygwedd ryngwladol, ac yn yr 20 uchaf am brofiad myfyrwyr.

“Hoffwn ddiolch i staff a myfyrwyr unwaith yn rhagor am eu hymdrechion.”

“Mae llwyddiannau diweddar i’r Brifysgol yn cynnwys canlyniadau ardderchog yn yr asesiad cenedlaethol o ansawdd ymchwil (REF) a gydnabu fod mwy na thri chwarter ymchwil Bangor naill ai “gyda’r orau yn y byd” neu “yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol.”

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2016