Dechrau ar ddarn bwysig o waith ymchwil gwellha iechyd

Dr Chris Burton (canol) efo'r Athro Jo Rycroft-Malone (ch) a Dr Nicky Callow (dd) a chynrychiolwyr y Sefydliad Iechyd yn ystod eu cyfarfod cyntaf.Dr Chris Burton (canol) efo'r Athro Jo Rycroft-Malone (ch) a Dr Nicky Callow (dd) a Bill Lucas a Fiona Reed o'r Sefydliad Iechyd yn ystod eu cyfarfod cyntaf.Dechreuwyd ar ddarn newydd o ymchwil pwysig am y ffyrdd gorau o gynnwys barn cleifion a defnyddwyr gwasanaeth i wella'r Gwasanaeth Iechyd ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.  

Enillodd Dr Christopher Burton, Uwch Gymrawd Ymchwil gyda'r Ysgol  Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Bangor, gymrodoriaeth bwysig y Sefydliad Iechyd. Bydd y wobr tair blynedd yn golygu y bydd yn gweithio gyda thîm o wyddonwyr gwella, yn ymchwilio i hyd at 10 o brojectau gwella ledled Prydain, i ddysgu sut mae gwelliannau'n gweithio, a'r hyn sy'n effeithiol o ran cyflawni'r effaith a ddymunir i sefydliadau, staff a chleifion. Yr amcan cyffredinol fydd sicrhau gwell canlyniad i gleifion.

Mae llawer o brojectau gwella ledled y DU ac mae llawer o'r ymchwil gan wyddonwyr gwella i'w heffeithiolrwydd, yn edrych ar wahanol strategaethau a fabwysiadir i wella perfformiad. 

Yr hyn sy'n newydd am ffordd Dr Burton o weithredu yw bod ganddo ddiddordeb mewn astudio effaith cynnwys y cleifion a'r cyhoedd  mewn projectau gwella iechyd. Mae'n bwriadu datblygu sgiliau newydd a syniadau damcaniaethol ym maes gwyddor gwelliant, a datblygu arbenigedd mewn perthynas â chynnwys y  cleifion a'r cyhoedd. 

Gan fod cleifion yn ganolog i ofal iechyd, mae cynnwys y cleifion  a'r cyhoedd yn rhan o'r mwyafrif o’r gwaith gwella , gan roi gwybodaeth am brofiadau, dewis a chanlyniadau newid.  Ond mae Chris yn credu nad yw cynnwys y cleifion a'r cyhoedd wedi derbyn llawer o sylw gan wyddor gwelliant hyd yma, a byddai deall mwy amdano o fudd mawr i wella gofal iechyd.

'Rwyf yn canolbwyntio ar brojectau gwella sy'n cynnwys y cleifion a'r cyhoedd, a all ddatblygu adnoddau a syniadau gwahanol iawn i sefydliadau iechyd. Mae cynnwys y cleifion a'r cyhoedd yn ddiddorol iawn oherwydd mae'n digwydd mewn cymaint o feysydd gwella, a byddwn yn canfod bod llawer iawn o ddysgu y gallwn ei ddefnyddio o fantais i ni. Mae'n edrych fel maes ymarfer sy'n tyfu, a chredaf fod potensial enfawr i ddatblygu gwyddoniaeth yn y maes hwn.'

'Rwyf eisiau cael darlun cyflawn o'r dylanwad sydd gan 'Cynnwys y Cleifion a'r Cyhoedd' yn ystod gwaith gwella sefydliad. Nid yn unig sut y mae'n ffurfio'r project, ond y math o ddysgu ymylol a'r sylwadau mae'n ei gynhyrchu. Gobeithiaf ddangos sut y gall defnyddio'r adnodd agored hwn ychwanegu gwerth sylweddol at waith gwella sefydliad, gwella profiad y bobl sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwnnw, a  chreu gwell canlyniadau i gleifion yn gyffredinol.'

Gall gwaith gwella gofal iechyd gynnwys unrhyw beth fel newidiadau i'r seilwaith sy'n cefnogi gwelliant, i bartneriaethau'r sefydliad neu newidiadau i systemau ac arferion. Bydd Chris yn cynllunio'r gwaith hwn gan gyfeirio at theori a elwir yn 'safbwynt y cwmni wedi'i seilio ar adnoddau' sy'n gweld sefydliadau fel cymysgedd cymhleth o adnoddau, yn cynnwys profiad a sgiliau eu staff. Mae ganddo ddiddordeb yn y ffordd mae'r adnoddau hyn yn cael eu ffurfio gan waith gwella.

'Mae pob sefydliad yn ceisio gwneud y gorau o'r adnoddau sydd ganddynt i gynyddu eu gallu i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Rydw i’n ceisio deall pam bod sefydliadau'n buddsoddi amser ac egni yn gwneud gwaith gwella, a beth yw’r gwerth mae'n ei ychwanegu at eu sefydliad. Drwy roi theori a brofwyd ar waith, rwyf yn gobeithio canfod rhesymau rhesymegol pam bod projectau gwella yn gweithio,' eglura.

Mae Chris Burton yn meddu ar PhD mewn gwyddorau iechyd ac mae ganddo ddiddordeb yn y ffordd y mae sefydliadau yn mynd ati i wneud gwaith gwella, yn arbennig pan mae'n golygu cydweithio gyda chleifion a'r cyhoedd, a'r mathau o rwystrau a llwyddiannau a brofir.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2013