Fy Nghwest am Yrfa fy Mreuddwydion

Gan Gracious M. Ali (MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd -2017/18)

Mae fy nhad, gweithiwr proffesiynol ym maes amaeth ymgynghorol sydd wedi rhoi ei fywyd i helpu ffermwyr lleol, wedi bod yn esiampl wych ac Gracious M.Ali, Vice Chancellor Prof. John Hughes                                     Gracious M.Ali, Vice Chancellor Prof. John Hugheswedi ysbrydoli fy niddordeb mewn gwasanaeth cymunedol. Does dim rhyfedd felly, pan raddiais o’r ysgol uwchradd, nad oeddwn i wedi meddwl ddwywaith cyn dilyn ôl traed fy nhad ac fe wnes i gais am fynediad i radd Baglor mewn Amaeth Ymgynghorol ym Mhrifysgol Malawi.

Ond ddwy flynedd ar ôl cychwyn yr astudiaethau hynny, fe wnes i ddarganfod, er bod gwasanaeth cymunedol yn fy ngwaed, nad amaethyddiaeth oedd fy maes. Yn hytrach, roeddwn i wedi datblygu diddordeb angerddol mewn iechyd cyhoeddus. Graddiais o’r brifysgol yn 2012, yn fwy penderfynol nag erioed i fynd ar ôl pob cyfle a allai sicrhau mynediad i mi i faes iechyd cyhoeddus. Drwy lwc a gwaith caled, ym mis Ionawr 2014 cefais swydd gyda sefydliad rhyngwladol, y Clinton Health Access Initiative (CHAI), sy’n cefnogi’r Weinyddiaeth Iechyd yn Malawi i ehangu swyddogaeth cymunedau mewn rheoli diffyg maeth difrifol mewn plant o dan bump oed. Bum mis ar ôl dechrau’r swydd, cefais gynnig y dasg newydd heriol ond cyffrous o gydlynu cadwyn gyflenwi cyffuriau malaria, dolur rhydd a niwmonia ar gyfer 504 o glinigau pentref i blant dan bump oed, ymyriad oedd yn rhedeg yn gyfochrog â rhaglenni'r llywodraeth. Ar ôl rhoi’r rhaglen ar waith yn llwyddiannus cafodd ei throsglwyddo i’r llywodraeth yn Mawrth 2015..

Er gwaetha'r ffaith fy mod i wedi llwyddo i sicrhau swydd yn y maes yr oeddwn wedi dyheu am fod yn rhan ohono, ac er fy mod i weld yn gwneud yn dda, roeddwn i'n dal i deimlo y gallwn wneud pethau llawer mwy pe bawn yn ennill gwybodaeth a sgiliau technegol priodol mewn iechyd cyhoeddus.

Felly penderfynais i wneud pob dim o fewn fy ngallu i barhau â’m hastudiaethau, gyda'r nod penodol o astudio iechyd cyhoeddus ar lefel Meistr yn un o'r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y byd. Yn 2015, dechreuais wneud ceisiadau i’r prifysgolion yr oeddwn i wedi eu dewis yn y DU ac Iwerddon. Gwaetha’r modd, derbyniais negeseuon e-bost cyfarwydd "mae’n flin gennym eich hysbysu bod eich cais am le wedi bod yn aflwyddiannus" am fy mod yn cael fy nghyfrif yn anghymwys. “Ond mae bywyd yn mynd yn ei flaen!” Cysurais fy hun, a’m bwriad oedd bwrw iddi eto’r flwyddyn ganlynol gyda rownd arall o geisiadau, ac yn y cyfamser byddwn yn ychwanegu blwyddyn arall o brofiad gwaith ym maes iechyd cyhoeddus a fyddai'n helpu i gryfhau fy nghais. Ar ôl trosglwyddo project gadwyn gyflenwi i'r Weinyddiaeth Iechyd ar ddiwedd mis Mawrth 2015, yn syth bin cefais gynnig gwaith cyffrous arall gan yr un cyflogwr, i gefnogi’r Weinyddiaeth Iechyd wrth iddi gyflwyno’r defnydd o Artesunate drwy chwistrelliad ar draws y wlad. Triniaeth oedd hon oedd newydd ei hargymell fel triniaeth gyntaf ar gyfer malaria difrifol, yn lle cwinîn drwy chwistrelliad, a’m tasg fyddai cydlynu’r project tan y flwyddyn ganlynol.

Fel mae amser yn hedfan! Cyn hir daeth 2016 ar ein gwarthaf, a daeth cyfle i ailafael yn y ceisiadau Meistr, gan dargedu'r un prifysgolion, ond y tro hwn daeth tro ar fyd. "Rydym yn falch o'ch hysbysu bod eich cais ....". Felly mae dychymyg yn troi’n realiti. Cefais gynnig lle ar bedair rhaglen i gyd mewn tair prifysgol, dwy yn y DU ac un yn Iwerddon ac o’r rheini dewisais yr MSc mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd ym Mhrifysgol Bangor. Er hynny, roeddwn i'n dal i wynebu un rhwystr enfawr arall: doeddwn i ddim wedi sicrhau arian eto i ddechrau ym mis Medi 2016, ac oherwydd hynny bu’n rhaid i mi ofyn am ohirio mynediad tan y flwyddyn academaidd2017/18. Fy unig obeithion am gyllid oedd Ysgoloriaethau Comisiwn y Gymanwlad a Chevening, dwy ysgoloriaeth bwysicaf llywodraeth y DU ar gyfer myfyrwyr tramor, y ddwy ohonynt i fod i agor ar gyfer ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017/18 ddiwedd 2016. Mi wnes i gais ac yn ffodus cefais fy ngosod ar y rhestr fer i’r ddwy ysgoloriaeth, ac ymhen hir a hwyr dyfarnwyd Ysgoloriaeth y Gymanwlad i mi.

Ymrestrais ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi 2017, ac a dweud y gwir, mae fy myd wedi newid yn aruthrol yn ystod yr ychydig fisoedd ers i mi gyrraedd Bangor. Mae'r addysgu a’r ymchwil yn y brifysgol o ansawdd uchel, mae'r bobl yn gyfeillgar, ac mae'r amgylchedd ffisegol yn dawel a dymunol. Nid wyf yn difaru dim i mi ddewis Prifysgol Bangor! Cyn i mi gyrraedd, roeddwn yn cydlynu project cynllunio teulu yn y gymuned, y disgwylir iddo gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Malawi (y Weinyddiaeth Iechyd) ar ddiwedd 2018. Fy mwriad cyntaf ar ôl cwblhau fy astudiaethau yw dychwelyd i Malawi, a chyfrannu at raglenni llywodraeth sydd â’r nod o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Ar ben hyn, yr wyf yn dymuno bod yn entrepreneur cymdeithasol iechyd cyhoeddus llwyddiannus er mwyn fy ngalluogi i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o'r fath yn lleol ac yn genedlaethol mewn modd cynaliadwy.

Er nad wyf yn ystyried fy mod wedi llwyddo eto, rwy'n hyderus fy mod yn fersiwn gwell heddiw o'r hyn yr oeddwn i ddoe. Rwy'n sicr mai yn y maes hwn rwyf i fod ac mai yn y maes hwn rwyf yn perthyn, a’m bod ar y llwybr cywir tuag at lwyddiant. Mae newid yn llwyddiannus o faes amaeth i faes iechyd cyhoeddus fel y dangoswyd drwy gydlynu projectau estynadwy yn llwyddiannus, a chael fy nerbyn i astudiaethau ôl-radd yn y brifysgol flaenllaw hon ynghyd ag ennill ysgoloriaeth mor bwysig yn gerrig milltir mawr yn fy ngyrfa. Hoffwn annog pob un ohonoch sydd yn gaeth yn nyffryn breuddwydion yn erbyn realiti; peidiwch â diffodd y fflam tu mewn i chi, ewch ar drywydd eich breuddwydion, ac wynebwch ba anawsterau bynnag y mae bywyd yn eu taflu atoch hyd nes y gallwch weiddi "Mi wnes i orchfygu popeth ac mi wnes i lwyddo!" Nid oes dim byd y tu hwnt i chi.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2018