Eisteddfod brysur arall i Brifysgol Bangor yn Eisteddfod Llanrwst 2019

Bangor University’s ‘reunion’ is always an opportunity for graduates to ‘catch up’ on the Eisteddfod field.Mae 'aduniad' Prifysgol Bangor, prynhawn dydd Mercher, wastad yn gyfle i ddal fyny efo hen ffrindiau coleg!

Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn cymryd rhan flaenllaw eto eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm y Maes, bydd rhaglen lawn o weithgareddau hefyd ar stondin y brifysgol ar y Maes eto eleni.

Ddydd Llun am 11.00, cadeirir trafodaeth ddifyr ‘Siaradwyr neu ddefnyddwyr y Gymraeg’  gan Ifor ap Glyn. Yn cymryd rhan yn y drafodaeth bydd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, Jeremy Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithredol CaBan, (Partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon), Prifysgol Bangor a Gwawr Maelor Williams a’r Athro Enlli Thomas, o’r Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol.

Hefyd ddydd Llun, am 14:00, bydd Dr Catrin Hedd Jones yn cynnal sgwrs i godi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr a’u teuluoedd: Pontio’r bobl a’r gymuned. Yn dilyn llwyddiant rhaglenni fel Hen Blant Bach bydd y sgwrs yn rhannu canfyddiadau ymchwil diweddaraf Mirain Llwyd Roberts am y rhwystrau a’r heriau sydd ynghlwm â phrojectau sy’n pontio’r cenedlaethau. Bydd Dr Catrin Hedd Jones yn trafod cynlluniau rhyngwladol a sut gall cynlluniau o’r fath gyfrannu at gymunedau hyfyw wrth daclo unigrwydd a chwrdd â gofynion newydd yr Arglwydd Donaldson.

Pleser hefyd yw croesawu’r cylchgrawn Barn i’r stondin ar gyfer eu digwyddiad blynyddol am 15.00. Bydd Gareth Glyn yn trafod 'Llanrwst a fi'. Bydd y cyfansoddwr yn sôn am ei gysylltiadau teuluol â Llanrwst ac am y gân a gafodd ei hysbrydoli gan y cysylltiadau hynny.

Ddydd Mawrth yn y stondin bydd Rhaglenni ION Leadership a 20twenty, rhaglenni a gynigir drwy Brifysgol Bangor, yn cynnal digwyddiad Arweinyddiaeth ar Waith am 11.00. Bydd cyfle i gyfarfod rhai o’r bobl sy’n dilyn y rhaglenni hyn a chlywed am eu profiadau a’r effaith arnynt hwy fel unigolion ac ar eu busnesau.

Ai Brexit yw argyfwng mwyaf y ganrif?’ yw pwnc trafod Cymdeithas Cledwyn yn eu cyfarfod yn y stondin am 12.00. Yn cymryd rhan bydd Susan Elan Jones AS, Ann Clwyd AS a’r Athro Merfyn Jones.

Yna am 13.00 bydd myfyrwyr llengar Bangor yn cymryd yr awenau wrth i Elis Dafydd holi Caryl Bryn, Osian Owen a Llŷr Titus am eu hysgrifennu creadigol.

Newyddion Heddiw, Newyddion Drwg yw teitl trafodaeth ar newyddiaduraeth yn y Gymraeg am 14.00-15.00. Ceir sgwrs banel gyda rhai o leisiau mwyaf adnabyddus newyddiaduraeth yng Nghymru dan gadeiryddiaeth Bethan Rhys Roberts.

Yr Athro J Lloyd Williams, cyn-ddarlithydd botaneg yn y brifysgol, a brodor o Lanrwst, sydd yn hawlio’r sylw am 15.00 wrth i Elen Wyn Keen, myfyriwr ôl-radd yn yr Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, drafod ei gyfraniad i’r traddodiad cerddorol yng Nghymru yn J Lloyd Williams Y cymwynaswr Cerdd o Lanrwst. Bydd sesiwn arall ar lwyfan ENCORE am 11.00 fore Sadwrn 10ed.

Mae dydd Mercher wastad yn ddiwrnod prysur ar stondin Bangor wrth i’r brifysgol wahodd cyn-fyfyrwyr i alw draw a chadw mewn cysylltiad, gyda’r Aduniad rhwng 14.00- 15.30 yn ganolbwynt i’r cyfan.

Hefyd yn ystod y diwrnod prysur, cawn drafodaeth am y llyfrau sydd o bwys i sawl un o staff academaidd ac ymchwil y brifysgol sydd yn ymchwilio ym maes llenyddiaeth. Cynhelir y digwyddiad  hwn, ‘Trysor ar Ynys Anial’, am 10.30 ac fe’i trefnir gan Wasanaeth Llyfrgell y brifysgol.

Am 12.00 croesewir Panel Trafod: Allforio Diwylliant Llechi Cymru i'r Byd. Bydd y panelwyr, Lisa Jên Brown, Eluned Haf, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a’r Athro Jerry Hunter yn trafod cwestiynau gan Lysgenhadon Ifanc Llechi Cymru am dreftadaeth ddiwylliannol ac effaith bosib sicrhau dynodi’r ardal yn Safle Treftadaeth Byd. 

Yn dilyn y drafodaeth, bydd Lisa Jên o 9bach yn perfformio set acwstig i’r gynulleidfa.

Yn glo i’r diwrnod ceir perfformiad gan Aelwyd JMJ. Mae Aelwyd JMJ wedi cael blwyddyn lwyddiannus dros ben eleni, gyda’r aelwyd a’i haelodau’n cipio gwobrau prif gystadlaethau corawl Eisteddfod yr Urdd, a chyda gwylwyr ledled y wlad yn mwynhau eu perfformiad wrth i’r côr gyrraedd rownd gyn-derfynol rhaglen a chystadleuaeth Côr Cymru ar S4C. Byddant yn diddanu yn y stondin am 15.30.

Ddydd Iau am 10.00 bydd yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor (Iaith Gymraeg, Diwylliant a Chysylltiad â’r Gymuned) Prifysgol Bangor a David Anderson OBE, Amgueddfa Cymru, yn llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth er mwyn atgyfnerthu a symud y berthynas rhwng y ddau sefydliad ymlaen.

Yna am 12.45 bydd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn lansio P-ELO, sef ‘Photo-Electric Light Orchestra’, neu’r Gerddorfa Olau Ffotodrydanol. Bydd y project newydd hwn yn dechrau fis Medi ac yn gweithio gyda phlant 9-13 oed o ysgolion lleol y dalgylch, i beiriannu offerynnau cerddorol yn defnyddio goleuni a chodio. ‘Perfformiad’ yn Pontio fydd penllanw’r project, a chyfle i’r disgyblion sydd wedi cymryd rhan ddod ynghyd i ddangos yr hyn maent wedi ei gyflawni.

Bydd staff o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd yn cynnal Gweithdy Iechyd ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ddydd Iau rhwng 12.00-13.00. Galwch draw i ymarfer technegau adfywio cardio pwlmonaidd, neu i brofi ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar a gweithgaredd iechyd meddwl.

Bydd myfyrwyr y brifysgol sydd wedi ffurfio Cymdeithas John Morris Jones yn cael eu croesawu i’r stondin am 14.00, cyn i Ensemble Telyn y Brifysgol (gweler #Encore uchod)  ymweld â’r stondin am 15.00-16.00.

Ddydd Gwener am 13.00 cynhelir Cân y Gân - dathliad o gyhoeddi casgliad o ganeuon i godi gwên gan drigolion cartrefi preswyl sydd yn byw gyda dementia. Caiff yr adnodd ei ddosbarthu am ddim lle mae'r angen. 

Mae'r gwaith hwn yn bartneriaeth gyda Merched y Wawr, Dydd Miwsig Cymru a Chanolfan Ymchwil a Heneiddio Cymru. Cewch gyfle i wrando ar Alistair O'Mahoney yn trafod ei ymchwil i therapi cerdd ym maes dementia a bydd Dr Catrin Hedd Jones yn rhannu datblygiadau diweddaraf y gwaith o sicrhau fod pawb yn cael mwynhau caneuon eu hieuenctid. Dewch draw i fwynhau perlau Cymru a chynorthwyo drwy ddod i gasglu CD i’w rannu. bit.ly/canyganbangor

Bydd Dr Prysor Williams o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol yn y stondin am 14.00 yn trafod Cig Coch - yn fwy gwyrdd nag yr ydych chi’n feddwl?

Ddydd Sadwrn ar y stondin rhwng 11 a 12.30 bydd yr Ysgol Gwyddorau Meddygol yn cyflwyno rhaglen C21 ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd. Bydd hwn yn gyfle i glywed mwy am y cwrs Meddygaeth newydd ym Mhrifysgol Bangor.

Croesewir Fleur de Lys i berfformio ar y stondin am 13.00-14.00.

Prifysgol Bangor yw un o brif noddwyr Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod. Bydd darlithwyr a myfyrwyr o Golegau Gwyddorau’r Amgylchedd a Gwyddorau Dynol, a’r Uned Technolegau Iaith, yno drwy’r wythnos yn cynnal gweithgareddau i blant.

Ymysg yr uchafbwyntiau ar y rhaglen fydd y Sioe Wyddoniaeth Wych yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg am 11:15 a 14:15 o ddydd Llun 5 Awst i ddydd Gwener 9 Awst.  Bydd Dr Enlli Harper a Dr Andrew Davies o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol yn syfrdanu plant ac oedolion fel ei gilydd.

Ddydd Mawrth 6 Awst rhwng 15:30-16:30  yn stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol bydd Dr Andrew Davies o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol yn lansio’r Ap Tabl Cyfnodol cyfrwng Cymraeg cyntaf ar gyfer platfformau ioS ac Android i ddathlu canmlwyddiant a hanner ei greu.  Lluniwyd yr ap mewn cydweithrediad â Galactig / Rondo Media a Gwil Løvgreen, cyfieithydd. Ariennir yr ap drwy Gronfa Strwythurol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Ydych chi eisiau gwybod mwy am sut mae technoleg adnabod lleferydd Cymraeg yn gweithio? Ydych chi eisiau cyfrannu eich llais i gronfa Common Voice er mwyn gwella’r dechnoleg? Bydd stondin Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr y Brifysgol yn esbonio mwy am y datblygiadau diweddaraf a’u hymgyrch yn torfoli lleisiau Cymraeg.

Mae’r Brifysgol hefyd yn cyfrannu at lwyfan #ENCORE yr Eisteddfod.

Ddydd Sadwrn, bydd gweithiau gan Dr Guto Pryderi Puw a David Roche yn cael eu perfformio ar Organ Stryd Astrid. Nos Sul bydd Kiefer Jones, athro llais o’r Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau,  yn rhoi  datganiad o unawdau amrywiol. Ceir datganiad meistr gan y pianydd Iwan Llewelyn Jones,  Cyfeilydd a Darlithydd mewn Perfformio, ac yna daw cerddoriaeth draddodiadol a chanu gwerin dan y chwyddwydr am 17:00 ddydd Mawrth dan arweiniad Yr Athro Pwyll ap Siôn, un o olygyddion  y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru. Ddydd Iau am 13.00 cewch fwynhau ensemble telyn gan fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor gyda Mared Emlyn, Medi Evans, Alys Bailey Wood ac Elain Jones. Nos Iau bydd sesiwn arall o’r Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru - y tro hwn bydd Yr Athro Pwyll ap Siôn yn troi’r sylw at gerddoriaeth glasurol a chelfyddydol. Bydd Organ Stryd Astrid yn ymddangos eto ddydd Sadwrn am 13.00 a sesiwn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru yn edrych ar ddiwylliant a diwydiant cerddoriaeth Cymru gyda’r Athro Pwyll ap Siôn am 17.00.

Meddai Dr Guto Pryderi Puw o’r Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau am gyfraniad yr Ysgol:

“Mae ein harlwy amrywiol o weithgareddau, gan gynnwys eitemau ychydig bach yn anarferol, fel Organ Stryd Astrid, yn tystio i’r math o weithgareddau a geir ym Mangor, ac yn arddangos doniau ein myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr perfformio, ynghyd â chyfansoddiadau gan fyfyrwyr ôl-radd a staff.”

Daw chwedlau Dyffryn Conwy’n fyw yn sioe wreiddiol Y Tylwyth, un o brif gyngherddau’r Eisteddfod mewn partneriaeth â Pontio, Prifysgol Bangor. Mae hon yn sioe wreiddiol llawn caneuon, straeon a champau acrobatig i’r teulu cyfan gan Myrddin ap Dafydd, Gwyneth Glyn a Twm Morys, nos Wener 2 Awst a Sadwrn 3 Awst am 18.00, tocynnau: www.eisteddfod.cymru 0845 4090 800

Bydd gan Pontio bresenoldeb ar y Maes drwy’r wythnos fel rhan o rwydwaith theatrau Cymru yng Nghaffi’r Theatrau yn y Pentref Drama. Dewch draw i gael copi o’r rhaglen ar gyfer y tymor i ddod. Hefyd mae digwyddiadau Lleisiau’r Stryd: rhoi llwyfan i leisiau’r digartref ym Mangor yng Nghaffi’r Theatrau Ddydd Mawrth 6 Awst, 16.00. Gwion Hallam fydd yn cadeirio sgwrs rhwng Mared Huws o Pontio, y dramodydd Branwen Davies, Hayley Owen o Hostel y Santes Fair a disgybl o Ysgol Friars, yn trafod y profiad o fod yn rhan o broject ‘Llesiau’r Stryd’ sy’n rhan o gynllun BLAS Pontio. Bydd Gwion Aled Williams yn darllen detholiadau o’r ddrama air am air a gafodd ei llwyfannu dros yr haf.

Ym Mhentre’s Plant cewch wylio Llew a’r Crydd, Dydd Iau a Dydd Gwener, 8 a 9 Awst

am 12.00, 14.00 a 16.00 neu cewch ymuno â gweithdy drama hwyliog yn edrych ar themâu Llew a’r Crydd sy’n addas i’r teulu cyfan am 15.00! Mae dau frawd yn teithio’r byd yn casglu straeon rhag iddynt fynd ar goll. Un noson yn yr Eisteddfod, a hwythau’n methu mynd i gysgu, maen nhw’n dweud stori am fachgen o’r enw Llew, crydd cybyddlyd cas, coblyn bach hudolus a thywysoges sydd eisiau gwneud dim byd ond dawnsio… Ymunwch â ni ar antur hudolus, lle ceir digon o straeon a phypedau od iawn yr olwg…

Cynhyrchiad ar y cyd gan Theatr Clwyd a Pontio , ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Emyr John.

Mae staff Prifysgol Bangor hefyd yn cymryd rhan flaenllaw yn nigwyddiadau’r Eisteddfod, ac mewn lleoliadau eraill ar y maes.

Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr Prifysgol Bangor, fydd y bardd lleol a fydd yn croesawu’r Orsedd a’r Eisteddfod i’r ardal yn y seremoni agoriadol ddydd Llun 5 Awst am 11:00 yng Nghylch yr Orsedd.

Hefyd bydd yn Llion yn cael ei holi gan Yr Athro Angharad Price yn Y Babell Lên am 14:15 ddydd Sul 4 Awst.  Yn  ‘Trydar mewn Trawiadau’ bydd yn ymateb wrth iddo roi'r gorau i gynganeddu ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl degawd o drydar mewn trawiadau.

Llion Jones hefyd fydd yn traddodi’r feirniadaeth yn Seremoni’r Cadeirio, ddydd Gwener am 16.30, ar ran ei gyd-feirniaid, Yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac Ieuan Wyn.

Bydd Jeremy Williams-Jones, darlithydd cyswllt yn yr Ysgol Busnes, yn aelod ar banel ym Mhabell y Cymdeithasau 2 ar 6 Awst am 13:30 i drafod Heriau’r Gymru Annibynnol. Hefyd yn cymryd rhan bydd Carwyn Jones AC a Liz Saville Roberts AS dan gadeiryddiaeth Beti George.

Ddydd Mercher am 16.00 ym Mhabell y Cymdeithasau 1 bydd Dr Sarah Nason o Ysgol y Gyfraith yn cyflwyno Darlith Flynyddol Cymdeithas y Cyfreithwyr Cymru a Lloegr ar  Cyfiawnder Gweinyddol Cymreig: Hawliau, Dyletswyddau, a Goblygiadau i’r Gwasanaethau Cyfreithiol.

Hefyd Ddydd Mercher am 14.00 bydd Dr Daniel Roberts o Ysgol Gwyddor Cyfrifiadurol a Pheirianneg Electronig yn traddodi ail Ddarlith Goffa Eilir Hedd ym Mhabell y Cymdeithasau 2. Am 16.00 bydd myfyrwyr a staff academaidd Prifysgol Bangor yn derbyn tystysgrifau Sgiliau Iaith ar stondin Coleg Cymraeg Cenedlaethol,

Dydd Iau, ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd yr Ysgol Gwyddorau Iechyd yn cynnal Gweithdy Iechyd. Bydd cyfle i ymwelwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer technegau adfywio cardio pwlmonaidd (CPR), ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar a gweithgaredd iechyd meddwl.

Bydd Dr Aled Llion Jones o Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn cyflwyno’i feirniadaeth ar Her Gyfieithu PEN Cymru ar stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ddydd Iau.

Bydd Dr Daniel Roberts yn arddangos project cydweithredol Cod i Obeithion gan y Ganolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol a’r CCC am 10.30 Ddydd Iau.

Bydd yr Athro Jerry Hunter yn aelod o banel trafod Beth i’w wneud gyda’n gwastraff? Senedd Ieuenctid Cymru ym Mhabell y Cymdeithasau 2 am 11.30 Ddydd Gwener.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2019