Anti Glenda a'i ffrindiau Dementia - Eisteddfod Genedlaethol Mawrth 8 Awst

Anti Glenda a ffrindiau.Anti Glenda a ffrindiau.Mae adnodd aml-gyfrwng a grëwyd gan ddisgyblion Ysgol Pentreuchaf i godi ymwybyddiaeth o ddementia,  wedi ei ddangos am y tro cyntaf mewn cyfarfod i drafod project arloesol, Project Anti Glenda, ym Mhabell Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod  bore 'ma (ddydd Mawrth 8 Awst).

Mae dementia yn broblem iechyd cyhoeddus o bwys yng Nghymru ac mae'r ymchwil a'r dysgu ym Mhrifysgol Bangor wedi ei anelu at wella’r gefnogaeth i’r rhai hynny sy'n byw gyda'r cyflwr. Amcangyfrifir bod rhwng 40,000 a 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia. Gall y symptomau amrywio yn ôl y math o ddementia ond gall y cyflwr effeithio ar dasgau bob dydd, cyfathrebu, y synhwyrau a'r cof.

Mae Project Anti Glenda yn broject cydweithredol sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac yn ffrwyth cydweithio rhwng Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru (2015-2017), Ffrindiau Dementia, Gwasanaethau Cymdeithasol a dwy ysgol gynradd yng ngogledd Cymru (Ysgol Pentreuchaf ac Ysgol Llywelyn). Bu Glenda Roberts, sy'n byw gyda dementia, yn ymweld â'r plant a siarad gyda nhw am ei phrofiadau hi a chodi ymwybyddiaeth o’r cyflwr. Mae'r plant wedi creu amlgyfryngau ar y cyd (ffilmiau, cerddi a gwaith celf) i fynegi eu dealltwriaeth a helpu i wella ymwybyddiaeth o ddementia.

Roedd y sesiwn yn dathlu'r project ac yn tynnu sylw at adnoddau defnyddiol sy’n gysylltiedig â dementia. Bydd y rhai fydd yn bresennol yn cael clywed am fanteision posib y math yma o broject i blant ysgol yn ogystal â'r rhai sy'n byw gyda dementia a sut y mae’n fodel ardderchog o ymwneud cymunedol.

Yn ôl Dr Catrin Hedd Jones, darlithydd Coleg Cenedlaethol Cymraeg ar Ddementia yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd, bydd y digwyddiad yn “ gyfle gwych i ni rannu ymarfer da rhai sydd yn gweithio yn galed i roi cymorth i bobl sydd yn byw gyda dementia. Rydym yn hynod falch o’r bartneriaeth sydd gennym drwy Rhwydwaith Dementia y Gogledd, sydd yn sicrhau fod profiadau pobl sydd yn byw gyda dementia yn cael lle blaenllaw wrth drafod y dyfodol a pha ffordd gwell ond wrth roi cyfle i blant fynegi’r hyn maent yn ei gysylltu â’r cyflwr?”

Roedd yn bleser gan y Tîm estyn croeso cynnes i bawb sy'n gysylltiedig ag addysg (athrawon, gwneuthurwyr polisi, rhieni a disgyblion), gofal iechyd (ymarferwyr, myfyrwyr, gwneuthurwyr polisi), y trydydd sector (elusennau, cartrefi gofal) a'r rhai sy'n byw gyda dementia, rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan ddementia neu sydd â diddordeb yn y cyflwr, i ymuno â ni i lansio project Anti Glenda.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2017