Academyddion Prifysgol Bangor yn cydweithio â Brasil i fynd i'r afael â phroblemau'r byd

Mae Prifysgol Bangor ar flaen y gad o ran gweithio ar y cyd ar draws disgyblaethau gwyddonol i ddatrys problemau o bwys ym maes iechyd a’r amgylchedd, ac o ran uno gofal iechyd, y celfyddydau a'r amgylchedd.

Maent yn gobeithio y bydd dod ag arbenigwyr o wahanol feysydd pwnc ynghyd gan ddefnyddio gwahanol ddulliau a thechnegau yn allweddol wrth ddatblygu atebion newydd i heriau o dan agendâu byd-eang megis Iechyd Cyfunol (OneHealth), Agenda 2030 ac ‘Ocean Decade’ y Cenhedloedd Unedig.

Mae llunwyr polisi o Frasil wedi nodi bod angen i ddinasoedd mawr fabwysiadu dull rhyngddisgyblaethol yn eu polisïau amgylcheddol, cynllunio ac iechyd cyhoeddus. I wneud hynny, maent yn cydnabod yr angen i gydweithio ag arbenigwyr ledled y byd. 

Mae Dr Patricia Masterson-Algar, o'r Ysgol Gwyddorau Iechyd, sy’n arwain y fenter hon mewn cydweithrediad â Dr Ronaldo Christofoletti o Brifysgol Ffederal São Paulo (UNIFESP), yn egluro:

“Mae’r gwaith hwn yn dangos y gall ymchwilwyr a llunwyr polisi o wahanol wledydd sy’n gweithio mewn gwahanol feysydd ddod o hyd i dir cyffredin o dan y rhagdybiaeth bod natur a’r amgylchedd yn dylanwadu ar iechyd a lles pobl.”

“Gan weithio gyda'n gilydd rydym yn dilyn dull gweithredu Iechyd Cyfunol (OneHealth) Sefydliad Iechyd y Byd. Mae'r ffordd hon o weithio yn cydnabod mai ein hunig obaith i ddatrys yr heriau byd-eang rhyng-gysylltiedig sy'n wynebu pobl a'r amgylchedd yw trwy ddod â gwyddonwyr a llunwyr polisïau o brifysgolion, sefydliadau'r llywodraeth ac elusennau ynghyd â rhanddeiliaid sy'n byw mewn cymunedau neu'n ymwneud â nhw, i weithio gyda'i gilydd.”

Mae’r Athro Gill Windle o'r Ysgol Gwyddorau Iechyd yn arbenigo mewn ymchwil ryngddisgyblaethol, ac mae’n nodi:

“Mae gennym brofiad yn y maes hwn. Er enghraifft, mewn projectau sy'n edrych ar fuddion pwerus cymryd rhan mewn gweithgareddau celf i bobl sy'n byw gyda dementia neu ymchwilio i fuddion lles ymwneud â byd natur.

Trwy weithio gyda'n gilydd a rhannu ein harbenigedd a'n diddordebau ymchwil rydym yn gobeithio bod yn barod i fanteisio ar gyllid i fynd i'r afael â rhai materion a nodwyd."

Mae'r Athro Stuart Jenkins o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi gweithio ar ymchwil i gefnforoedd gyda chydweithwyr yn UNIFESP, ac mae'n falch iawn o weld y bartneriaeth yn ehangu i gyd-fynd â'r agenda Iechyd Cyfunol fyd-eang.

Meddai:

“Rwyf wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr ym Mrasil ers nifer o flynyddoedd, ond yn lle rhannu syniadau â biolegwyr môr eraill, roedd yn wych gweld buddion gweithio gyda gwyddonwyr iechyd ac ymddygiadol. Mae'n amlwg y gallwn ni, trwy weithio ar draws disgyblaethau, newid ymddygiadau, a fydd yn y pen draw o fudd i gymdeithas a'r amgylchedd.”

Dywedodd Dr Ronaldo Christofoletti o UNIFESP, Brasil:

“Rydyn ni mor falch ein bod ni’n cael trafodaeth barhaus gyda Phrifysgol Bangor. Rydyn ni i gyd yn mynd i fod mewn sefyllfa gryfach i weithio gyda'n gilydd i ddatrys rhai problemau byd-eang yn y byd go iawn sy'n effeithio ar gymdeithas a'r amgylchedd. Mae angen i ni wybod beth sy'n gweithio a beth sydd ddim, a gwella'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau trwy weithredu'n lleol, ond meddwl yn fyd-eang.

Ariennir y gweithdy rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Ffederal São Paulo drwy grant o Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang Ymchwil ac Arloesi’r Deyrnas Unedig, sy'n cefnogi ymchwil arloesol i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu gwledydd sy'n datblygu. Mae'n rhan o gymorth datblygu swyddogol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac fe'i rheolir gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2021