‘Cyfle am sgwrs’ i bobl sydd newydd gael diagnosis o ddementia

Rhai o'r lleisiau a fydd yno i ateb galwadau.Rhai o'r lleisiau a fydd yno i ateb galwadau.Mae “Cyfle am Sgwrs” yn rhoi cynnig i siarad ar y ffôn neu gwrdd â rhywun arall sy'n byw gyda diagnosis yng Ngogledd Cymru. Byddwn yn ei lansio ym Mhrifysgol Bangor fel rhan o ‘World Alzheimer’s Month’ ym mis Medi (23/09/2019).

Daeth y syniad o brofiad personol Teresa Davies ar ôl iddi dderbyn diagnosis, pan fyddai wedi hoffi siarad hefo rhywun a allai werthfawrogi'r hyn yr oedd hi yn mynd drwyddo. Mae'r fenter wirfoddol hon yn gyfle i siarad â rhywun sydd yn deall sut y gall unigolyn deimlo ac y gallent gyfeirio at eraill a allai fod o gymorth, yn seiliedig ar eu profiadau eu hunain.

Dywedodd Teresa, o Ewloe:

“Trwy siarad â phobl eraill sy’n byw gyda dementia, gallwch ddarganfod beth sy’n gweithio iddyn nhw, a rhannu eich profiadau. Ti dal yn chdi.”

Mae’r prosiect yn deillio o Rwydwaith Dementia Gogledd Cymru sydd yn cael ei hwyluso gan Brifysgol Bangor a’r ‘Dementia Engagement and Empowerment Project’(DEEP) a bydd yn cael ei lansio mewn digwyddiad ar ddementia ym Mhrifysgol Bangor ar 23 Medi am 10:30yb. Bydd y bore yn cynnwys cyflwyniadau gan ymchwilwyr blaenllaw ym Mhrifysgol Bangor ac wrth gwrs, y gwirfoddolwyr eu hunain, a fydd yn rhannu cyngor ar fyw efo diagnosis o ddementia.

Dywedodd Dr Jen Roberts o Ysgol Gwyddorau Iechyd y Brifysgol

“Ychydig iawn o ymchwil hyd hyn sydd wedi archwilio cefnogaeth gyfoed i bobl sy'n byw gyda dementia. Bydd y prosiect hwn yn darparu mewnwelediadau a dealltwriaeth bwysig ar gyfer datblygu cefnogaeth amserol a phriodol i bobl sy'n byw gyda dementia, gan bobl sydd yn byw gyda dementia.”

Dyfarnwyd tystysgrif statws Gweithio Tuag at fod yn Ddementia Cyfeillgar i Brifysgol Bangor gan Jim Ibell, Llysgennad Cymdeithas Alzheimer ym mis Mai 2019, ac mae aelodau ‘Cyfle am Sgwrs’ ar grŵp llywio'r Brifysgol. Bydd y digwyddiad yma hefyd yn gyfle i ddysgu am y wahanol fathau o gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ledled gogledd Cymru i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia.

 Gwahoddir pobl sydd â diddordeb darganfod mwy am yr ymchwil ddiweddaraf a chasglu awgrymiadau ar fyw gyda dementia gan y gwirfoddolwyr i Neuadd Reichel y Brifysgol. Mae lleoedd yn gyfyngedig, a lluniaeth ysgafn ar ddiwedd y bore: cysylltwch â Iona Strom erbyn 10fed Medi i gadw lle drwy e-bostio dsdcadmin@bangor.ac.uk neu ffonio 01248 383050.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2019