Y cwrs Radiograffeg gorau yn y DU ar frig tabl cynghrair y Prifysgolion

Yn ôl y Times & Sunday Times University Guide 2016, Prifysgol Bangor yw’r lle gorau i astudio radiograffeg. Ar ben hynny, myfyrwyr radiograffeg Bangor oedd â’r rhagolygon gyrfaol gorau o blith holl raddedigion radiograffeg y DU, a gosodwyd y cwrs ar y trydydd safle o ran safonau mynediad.

Mae Prifysgol Bangor hefyd ymysg 10 uchaf o blith Prifysgolion y DU mewn pum pwnc arall. Yn ogystal â radiograffeg, daw Astudiaethau Celtaidd (Cymraeg) yn ail, Polisi Cymdeithasol yn ail, Amaeth a Choedwigaeth yn seithfed, Ysgrifennu Creadigol yn wythfed ac Addysg yn ddegfed.

Wrth rhoi sylw ar lwyddiant addysg radiograffeg y Brifysgol, dywedodd Elizabeth Carver, prif diwtor addysg glinigol yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd:

“Gan fod y DU yn arwain y byd ym maes addysg radiograffeg, anrhydedd o’r mwyaf yw cyrraedd y brig. Ysgrifennwyd a golygwyd ein prif lyfr sylfaen ar gyfer ymarfer radiograffeg gan staff sy’n dysgu ar ein cwrs, ac mae’n werslyfr craidd sy’n cael ei ddefnyddio yn y rhan fwyaf o gyrsiau gradd radiograffeg y DU, gan ychwanegu at ein enw da ar raddfa ryngwladol. Ar ben hynny, cawsom sgôr o 100% yn ddiweddar yn ACM o ran cefnogaeth a pharatoad ar gyfer lleoliadau, a hynny’n ychwanegu at yr ystadegau ac, o ganlyniad, gall darpar-radiograffwyr fod yn sicr o safon a phrofiad addysg wrth astudio gyda ni.”

Gan ddefnyddio’r Arolwg Cenedlaethol Boddhad Myfyrwyr (NSS 2015) diweddaraf, a hefyd canlyniadau asesiad cenedlaethol o ansawdd ymchwil (REF 2014), mae’r Times & Sunday Times League Tables yn rhoi dadansoddiad trylwyr o’r gwahanol elfennau a phynciau ym mhob prifysgol yn y DU. Mae Prifysgol Bangor yn parhau ar y trydydd safle yng Nghymru ac wedi cynyddu ei sgôr gyffredinol yn y Tablau o 573 i 589.

Mae asesiad o Ansawdd Dysgu yn gosod y Brifysgol ar frig y rhestr bynciau mewn Ieithyddiaeth, yn ail am ansawdd dysgu mewn Amaethyddiaeth a Choedwigaeth, Astudiaethau Celtaidd ac ysgrifennu Creadigol ac yn drydydd mewn Polisi Cymdeithasol, tra bo Cymraeg (Astudiaethau Celtaidd) ar y brig o ran Profiad Myfyrwyr.

Mewn ymateb i’r canlyniadau, dyma oedd gan yr Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-Ganghellor Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor, i’w ddweud:

“Yn ogystal â’i hanes hir o ragoriaeth academaidd, mae Bangor ag enw da am ddarparu addysgu a chefnogaeth o’r radd flaenaf i fyfyrwyr, a’r canlyniadau gwych hyn yn dyst i hynny. Mae’r ymchwil a wneir ym Mhrifysgol Bangor, sydd gyda’r orau yn y byd, ynghyd â’r lefel uchel o foddhad myfyrwyr, yn sicrhau bod y Brifysgol hon yn lle unigryw a hynod atyniadol i astudio ynddo.

Yn ôl canlyniadau ACM, ac am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Prifysgol Bangor ar y safle uchaf o blith prifysgolion yng Nghymru ac ymysg y deg uchaf o blith prifysgolion anarbenigol y DU, sef y sefydliadau traddodiadol sy’n cynnig amrywiaeth eang o bynciau. 

Cydnabu Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 fod mwy na thri chwarter ymchwil Bangor naill ai “gyda’r orau yn y byd” neu “yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol”. Ar sail cyflwyniad y Brifysgol mewn 14 Uned Asesu, cafodd 77% o’r ymchwil ei gosod yn y ddwy haen uchaf o ran ansawdd ymchwil, sydd yn uwch na’r cyfartaledd ymysg holl brifysgolion y Deyrnas Unedig.

Ar ben hynny, mewn tabl cynghrair sydd newydd ei gyhoeddi, mae Prifysgol Bangor wedi codi 60 safle yn y ‘QS World University Rankings’ (www.topuniversities.com) ac[  wedi cyrraedd safle 411 yn y byd yn y tabl dylanwadol hwn.

 

Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2015