Cydweithio i ddatblygu a gweithredu Rhaglen Nyrs Gyswllt newydd i Atal Heintiau

Sefydlwyd project newydd ar y cyd rhwng Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu rhaglen newydd i hyrwyddo arfer gorau mewn atal heintiau.  Mae staff o'r tîm Atal Heintiau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a staff a myfyrwyr o'r Ysgol wedi cydweithio i ddatblygu rhaglen bwrpasol i nyrsys cyswllt mewn lleoliadau ysbytai cymunedol.

Bwriad y rhaglen yw cefnogi staff yn eu swyddogaeth newydd a rhoi cyfleoedd iddynt adfyfyrio a dysgu, ac mae'n cynnwys cwrs ar-lein newydd a gynlluniwyd gan dîm y project. Bydd y cwrs yn cynnwys canolbwyntio ar gynyddu gwybodaeth a sgiliau am atal heintiau, a hefyd hyrwyddo dysgu am newid ymddygiad mewn sgiliau ymarfer ac arwain, ac yn cynnig cyfleoedd strwythuredig i adfyfyrio am arfer orau wrth ofalu am gleifion. Mae cyswllt rhwng pob cwrs â bwrdd trafod ar-lein i hyrwyddo rhwydweithio a chefnogi, y gall nyrsys cyswllt fynd iddo ar adeg pan fydd yn gyfleus iddynt.  Caiff y rhaglen ei  gwerthuso yn 2017.

Dywed Dr Lynne Williams o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd:

“Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda'r tîm Atal Heintiau ar y fenter gyffrous hon. Nid yw rhaglenni nyrs gyswllt yn rhywbeth newydd mewn nyrsio, ond nid oes llawer o dystiolaeth i ddangos yn union eu cyfraniad at hyrwyddo arfer gorau. Rydym wedi cydweithio i ddatblygu rhaglen gynhwysfawr sy'n annog adfyfyrio ar ymarfer, a chynnig cyfle i nyrsys cyswllt oedi a meddwl am faterion, a hyrwyddo eu datblygiad eu hunain fel arweinwyr yn y maes ymarfer hynod o bwysig hwn." 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2017