Newyddion: Rhagfyr 2019
Yn benderfynol o wireddu’r freuddwyd – Jade yn graddio fel Bydwraig Dosbarth Cyntaf
Er mai bod yn fydwraig fu ei breuddwyd erioed, chwaraeodd amgylchiadau eu rhan a golygu y bu rhaid i Jade Parsons roi y freuddwyd honno o’r neilltu. Â hithau wedi adael yr ysgol yn un ar bymtheg oed heb unrhyw gymwysterau a dod yn feichiog yn fuan wedi hynny, golygodd bod yn rhaid i Jade, o Dreffynnon, neilltuo ei holl egni ac amser ar fagu ei theulu ifanc
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2019
Llwybr arall cyffrous i Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Bangor
Gyda ffisiotherapyddion yn aml yn brin, mae rheolwyr gwasanaeth ffisiotherapi a darpar fyfyrwyr yng Nghymru wedi dangos diddordeb cryf yn natblygiad llwybr carlam 2 flynedd cyn-gofrestru wedi'i anelu at ymgeiswyr graddedig. Ystyrir y math hwn o raglen yn ddull gwahanol cyffrous o fynd i'r proffesiwn yn hytrach na'r llwybr arferol i israddedigion.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2019