Newyddion: Ionawr 2020

Tynnu sylw at ymchwil Canser ym Mhrifysgol Bangor

Bydd digwyddiad ym Mhrifysgol Bangor ar 4 Chwefror 2020 er mwyn nodi Diwrnod Canser y Byd. Cynhelir y digwyddiad, sydd yn rhad ac am ddim, yn Ystafell Ddarlithio 2 yn Pontio, rhwng 6.00pm ac 8.15pm. Bydd yn tynnu sylw at yr ymchwil canser sy'n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Bangor, gan nodi 20 mlynedd ers sefydlu Diwrnod Canser y Byd. Bydd nifer o sgyrsiau byr gan oncolegwyr ac ymchwilwyr prifysgol ac yna sesiwn holi ac ateb.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2020

Cefnogaeth cymheiriaid yn helpu cynyddu effeithiau llesol gweithgareddau awyr agored

Disgrifiwyd y gogledd fel 'Prifddinas Antur Ewrop' ac mae eleni'n cael ei hyrwyddo fel #blwyddynyrawyragored #yearofoutdoors, mae anogaeth inni ddathlu'r mynyddoedd, yr arfordir a chefn gwlad ac i ymgolli yn harddwch naturiol y wlad a medi'r effeithiau llesol. Mae astudiaeth newydd a chyffrous o Brifysgol Bangor yn ystyried a yw'n bosib cynyddu'r manteision llesol i rai unigolion o gael eu cefnogi gan bobl sy'n wynebu heriau tebyg, neu 'gymheiriaid'.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2020

Dros 60 oed ac ar-lein: Adroddiad newydd ar iechyd y boblogaeth yn canfod bod pobl hŷn yng Nghymru yn cymryd rhan weithredol yn y cyfryngau cymdeithasol

Mae pobl dros 60 oed yng Nghymru ar-lein ac yn cymryd rhan weithredol yn y cyfryngau cymdeithasol, a gall hyn fod yn offeryn pwysig yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd. Mae 77 allan o pob 100 o bobl yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn yn defnyddio un neu fwy o gyfryngau cymdeithasol. Mae 65 o blith y 100 yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol bob dydd. Daw'r canfyddiadau hyn o adroddiad newydd: Iechyd y Boblogaeth mewn Oes Ddigidol: Patrymau yn y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru g an Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor a gyhoeddir heddiw.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2020

Mae'r garfan gyntaf o fyfyrwyr Ffisiotherapi PGDip yn cychwyn ar eu cwrs ym Mangor heddiw

Gyda phrinder ffisiotherapyddion yn aml, mae rheolwyr gwasanaeth ffisiotherapi a darpar fyfyrwyr yng Nghymru wedi croesawu datblygiad llwybr newydd i bobl gymhwyso fel ffisiotherapyddion.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Ionawr 2020

Exercise: we calculated its true value for older people and society

Dyma erthygl yn Saesneg gan Carys Jones, Cymrawd Ymchwil gyda'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2020