Cefnogaeth cymheiriaid yn helpu cynyddu effeithiau llesol gweithgareddau awyr agored

Grŵp arforgampau. : Credyd llun: Trys BurkeGrŵp arforgampau. : Credyd llun: Trys BurkeDisgrifiwyd y gogledd fel 'Prifddinas Antur Ewrop' ac mae eleni'n cael ei hyrwyddo fel #blwyddynyrawyragored #yearofoutdoors, mae anogaeth inni ddathlu'r mynyddoedd, yr arfordir a chefn gwlad ac i ymgolli yn harddwch naturiol y wlad a medi'r effeithiau llesol. 

Mae astudiaeth newydd a chyffrous o Brifysgol Bangor yn ystyried a yw'n bosib cynyddu'r manteision llesol i rai unigolion o gael eu cefnogi gan bobl sy'n wynebu heriau tebyg, neu 'gymheiriaid'.

Wrth arwain grŵp o gyn-filwyr dall, o Blind Veterans UK, mewn arforgampau oddi ar arfordir Ynys Môn, gwelodd Trys Burke o Snowdonia Watersports fod pawb yn cefnogi ei gilydd ac yn gallu annog ei gilydd mewn ffyrdd na allai hithau oherwydd nad oedd hi’n ddall.  

“O gamu'n ôl ar adeg briodol a gadael i un o’r cyfranogwyr hyderus arwain y lleill trwy ran fach o'r cwrs, gallwn weld hyder a mwynhad y grŵp yn tyfu ac yn tyfu,” meddai Trys.
 
“Roedd yr arweinydd cymheiriaid yn cynnig llawer mwy o ysbrydoliaeth nag y gallwn i fyth, oherwydd roedd yn deall yn iawn sut oedd y lleill yn teimlo, ac yn gwybod yr hyn allen nhw ei wneud a'r hyn na allen nhw ei wneud. Roedd y grŵp yn ymddiried yn llwyr ynddo ac oherwydd hynny roeddent yn hamddenol ac yn cyflawni llawer mwy na'r disgwyl.” 

Grŵp yn mwynhau codi hwyliau ar gaiac môr: Credyd llun: Trys BurkeGrŵp yn mwynhau codi hwyliau ar gaiac môr: Credyd llun: Trys BurkeMewn gofal iechyd, mae cefnogwyr cymheiriaid (a elwir hefyd yn arweinwyr cymheiriaid neu'n fentoriaid cymheiriaid) yn aml yn gweithio mewn rôl lle maent yn defnyddio eu profiadau ac yn rhannu'r profiadau hynny i ysbrydoli, hysbysu a chefnogi'r lleill mewn sefyllfaoedd tebyg, i'w helpu nhw ddod o hyd i'w llwybr eu hunain at wellhad neu fywyd hapusach. 

Mae Trys bellach yn gwneud PhD yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor i ddatblygu model o gefnogaeth cymheiriaid a'i dreialu yn yr awyr agored. 

“Fydd hi ddim yn hawdd” meddai. “Mae'r awyr agored yn amgylchedd deinamig iawn ac yn aml yn beryglus. Mae'n hollbwysig gwybod pryd a ble sydd orau i ganiatáu i'r gweithiwr cefnogi cymheiriaid gymryd yr awennau, ond mae manteision cymryd rheolaeth, hyd yn oed am gyfnod byr, yn cynnig mwy o gyfleoedd i fagu hyder ac ymddiriedaeth yn y grŵp."

Bydd yr ymchwil hwnnw hefyd yn rhoi sylw i dargedau Llywodraeth Cymru yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a bydd yn cynnig rhaglenni newydd posib i gleientiaid canolfannau gweithgareddau'r gogledd. 

Dywedodd Chris Thorne perchennog Snowdonia Watersports yn Llanberis, a phartner cwmni'r project: 

Criw'n cerdded ger Llyn Crafnant: Credyd llun: Simon BurkeCriw'n cerdded ger Llyn Crafnant: Credyd llun: Simon BurkeMae llawer o grwpiau cymunedol lleol, a nifer ohonynt ag anghenion cymhleth, yn dod atom ar gyfer gweithgareddau awyr agored yn rheolaidd.  Mae'n wych iawn gallu cynnig rhaglen ddatblygu i'n cleientiaid a'u haelodau yn yr awyr agored a fydd yn mynd â'r aelodau ar siwrnai y tu hwnt i gymryd rhan yn y gweithgareddau'n unig."

Cyllidir yr ymchwil trwy Raglen Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Gwybodaeth (KESS 2). Caiff KESS 2 ei gyllido'n rhannol gan raglen Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd ac mae'n cefnogi projectau ymchwil cydweithredol gyda phartneriaid allanol yn ardal Cydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a'r Cymoedd). 

Os hoffech wybod mwy am y project neu os yw'ch cwmni am gymryd rhan yn y dylunio a'r cyflwyno, cysylltwch â Trys Burke t.burke@bangor.ac.uk or Dr Patricia Masterson-Algar p.m.algar@bangor.ac.uk

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2020