Bydwreigiaeth yn cyrraedd y cam cyntaf i gael achrediad Prifysgol Menter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF y DU

Mae'r rhaglen Baglor mewn Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd cam cyntaf y daith i gael achrediad Prifysgol Menter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF y DU. Maent yn awyddus i fod y brifysgol gyntaf yng Nghymru i ennill achrediad llawn. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw raglenni bydwreigiaeth eraill yng Nghymru sydd wedi cael achrediad llawn Menter Cyfeillgar i Fabanod, gyda dim ond 36% o raglenni bydwreigiaeth yn y DU wedi sicrhau achrediad llawn.  Myfyrwyr bydwreigiaeth y flwyddyn gyntaf ac ail, Sharon Breward, cydlynydd bwydo babanod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (mewn llwyd, Lynne Edgerton (mewn coch) a Sheila Brown (mewn oren).Myfyrwyr bydwreigiaeth y flwyddyn gyntaf ac ail, Sharon Breward, cydlynydd bwydo babanod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (mewn llwyd, Lynne Edgerton (mewn coch) a Sheila Brown (mewn oren).

Mae Menter Cyfeillgar i Fabanod y DU yn gweithio i wella cyfraddau bwydo ar y fron yn y DU drwy asesu ansawdd y gefnogaeth a'r wybodaeth mae merched a'u teuluoedd yn eu derbyn yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl geni. Mae achrediad Prifysgol Menter Cyfeillgar i Fabanod yn asesu ansawdd yr addysg mae darpar weithwyr proffesiynol gofal iechyd yn ei dderbyn o fewn rhaglenni Prifysgol, mewn perthynas â bwydo babanod. Mae myfyrwyr sy'n gadael rhaglenni achrediad Prifysgol y Fenter yn gwneud hynny gyda thystysgrif ychwanegol mewn cefnogi bwydo ar y fron.

Mewn ymateb i gyfres ddiweddar o erthyglau yn y Lancet yn tynnu sylw at y sail dystiolaeth aruthrol bod bwydo ar y fron yn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant, mae UNICEF yn galw am weithredu ar lefel y llywodraeth, i sicrhau bod rhaglenni effeithiol i gefnogi bwydo ar y fron yn cael eu cyllido. Gall hyn wella'n sylweddol ganlyniadau iechyd mamau a phlant ledled y byd. 

Er mwyn gwneud penderfyniad ar sail wybodaeth am sut i fwydo eu baban, mae'n hanfodol bod merched yn gwybod am yr effaith sylweddol y gall bwydo ar y fron ei chael ar iechyd eu baban newydd-anedig. Os yw merched yn dewis bwydo ar y fron, mae'n hollbwysig eu bod yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i wneud hynny'n llwyddiannus. Yn ôl arolwg diweddar am fwydo babanod yn y DU, mae merched sy'n dewis bwydo eu baban ar y fron adeg genedigaeth yn cael trafferth i barhau i fwydo ar y fron o fewn yr ychydig wythnosau cyntaf. Dywedodd merched a roddodd gorau i fwydo ar y fron yn yr wythnosau cynnar yn dilyn genedigaeth, y byddent wedi hoffi parhau'n hirach i fwydo ar y fron. Mae bydwragedd yn y sefyllfa orau i gynnig cefnogaeth a chanllawiau i ferched ynglŷn â bwydo ar y fron ac felly mae'n hollbwysig bod darpar fydwragedd yn cael digon o wybodaeth a sgiliau i gefnogi merched i fwydo ar y fron yn llwyddiannus.

Bydd Achrediad Prifysgol Menter Cyfeillgar i Fabanod yn sicrhau bod myfyrwyr bydwreigiaeth yn cymhwyso gyda sylfaen gadarn o wybodaeth seiliedig ar dystiolaeth mewn perthynas â bwydo ar y fron. Trwy sicrhau bod darpar fydwragedd yn cymhwyso gyda gwybodaeth a sgiliau rhagorol i gefnogi merched i fwydo ar y fron, ynghyd â sgiliau ar gyfer dysgu gydol oes, gall y rhaglen fydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor wneud cyfraniad pwysig i wella iechyd cyhoeddus yng Nghymru.

Meddai Sharon Breward MBE QN, Cydlynydd Bwydo Babanod yn BCUHB,

"Rwy'n hynod falch bod y cwrs Baglor mewn Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor wedi llwyddo i fynd drwy gam cyntaf eu taith i gael achrediad UNICEF, 'Cyfeillgar i Fabanod'.  Bydd cyflawni'r achrediad hwn yn sicrhau y bydd y safonau gofal gorau hyn wedi eu sefydlu'n gynaliadwy yn ein gwasanaethau mamolaeth yn y dyfodol, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda hwy wrth iddynt symud ymlaen i'r ail gam."

 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2016