Astudiaeth newydd i asesu lefelau staffio diogel mewn wardiau ysbytai

Delwedd trwy garedgrwydd Prifysgol SouthamptonDelwedd trwy garedgrwydd Prifysgol SouthamptonBydd ymchwilwyr Prifysgol Bangor yn gweithio gyda Phrifysgol Southampton ar astudiaeth newydd i asesu gweithredu, effaith a chostau polisïau staffio diogel ar gyfer nyrsio mewn ymddiriedolaethau aciwt.

Bydd ymchwilwyr yn gofyn i 155 o ymddiriedolaethau yn Lloegr werthuso mentrau staffio diogel yn cynnwys eu cyfradd ymateb eu hunain i'r mater.

Arweinwyr yr astudiaeth fydd Jane Ball a'r Athro Peter Griffiths ym Mhrifysgol Southampton, mewn cydweithrediad â'r Athro Jo Rycroft-Malone, y Dirprwy Is-ganghellor a'r  Athro Christopher Burton yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Bangor.

Meddai'r Athro Chris Burton: "Mae’n bleser gennym gydweithio â chydweithwyr ym Mhrifysgol Southampton ar yr astudiaeth bwysig hon. Mae'n rhoi cyfle unigryw i ni integreiddio ein harbenigedd mewn gwyddor gweithredu gyda phrofiad sylweddol Southampton mewn ymchwil i'r gweithlu nyrsio. Bydd hyn yn ein galluogi i daenu golau newydd ar effeithiau polisïau staffio diogelach yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a dysgu mwy am sut y gallwn sicrhau cyflwyno gofal iechyd diogel ac effeithiol i gleifion."

Meddai'r Athro Griffiths, ym Mhrifysgol Southampton: "Mae cael digon o staff gyda'r sgiliau iawn yn allweddol i ddiogelwch cleifion. Mae ein hymchwil blaenorol wedi dangos cysylltiad clir rhwng lefelau staffio nyrsio a marwolaethau cysylltiedig ag ysbytai. Bwriad yr astudiaeth newydd hon yw canfod y costau a'r canlyniadau o weithredu polisïau staffio newydd, ac egluro beth sydd wedi llunio gweithredu llwyddiannus."

Delwedd trwy garedgrwydd Prifysgol SouthamptonDelwedd trwy garedgrwydd Prifysgol SouthamptonMae'r astudiaeth, a gyllidir gan Raglen Ymchwil Polisi yr Adran Iechyd, yn edrych yn fanwl ar sut mae polisïau staffio diogel wedi eu gweithredu, sut mae'r gweithredu wedi amrywio, pa newidiadau mewn lefelau staffio a welir, ac a yw'r newidiadau staffio a welir yn gysylltiedig â newidiadau mewn canlyniadau i staff a chleifion.

Dywedodd Jane Ball: "Mae angen i'r GIG wybod sut mae polisïau staffio diogel wedi cael eu gweithredu, sut mae hyn yn amrywio ar draws y wlad, a'r costau a'r canlyniadau. Gall deall beth a weithiodd lle ac i bwy, helpu i fod yn sail wybodaeth i ganllawiau a roddir i'r GIG yn y dyfodol. Yn y cyd-destun ariannol presennol, mae defnyddio adnoddau (gyda staffio fel yr elfen fwyaf) yn ddoeth i leihau'r risgiau o ofal ysbyty a chael y buddion mwyaf i gleifion yn hanfodol; mae deall costau a chanlyniadau gweithredu polisi staffio diogel yn allweddol i hyn."

Mae astudiaeth Southampton yn rhan o raglen ymchwil a ariannir gan y Rhaglen Ymchwil Polisi i archwilio gweithredu ac effaith polisïau yn dilyn ymchwiliad Francis. Ceir rhagor o wybodaeth yn: http://www.prp-ccf.org.uk/PRPFiles/Lay_summaries_in_progress_January_16.pdf

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2016