Prynu nwyddau gofal iechyd mewn modd moesegol

Cyfrannodd yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd at y Pythefnos Masnach Deg drwy gynnal seminar a arweiniwyd gan Lucy Bryning sy’n ymchwilydd yng Nghanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) a Jude Field sy’n ddarlithydd mewn bydwreigiaeth ac yn aelod o Grŵp Llywio Masnach Deg y brifysgol. Roedd y seminar yn canolbwyntio ar ystyriaethau moesegol cynhyrchu a chaffael deunyddiau meddygol, megis offer llawfeddygol, tecstiliau a menig archwilio ar gyfer y GIG.

Esboniodd Lucy Bryning:

"Fe wnaethon ni ddefnyddio ymgyrch Masnach Feddygol Deg Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) fel fframwaith ar gyfer y seminar, yn cynnwys ffilm fer yr ymgyrch 'The Cost of Healthcare'. Dechreuwyd yr ymgyrch yn 2007 gan y llawfeddyg Dr Mahmood Bhutta ar ôl i ymweliad â Phacistan dynnu ei sylw at yr amgylchiadau ecsbloetiol yr oedd cynhyrchwyr offer llawfeddygol ar gyfer y GIG yn ei brofi - gan gynnwys amodau anniogel, cyflogau isel iawn, a llafur plant."

Ychwanegodd Jude Field:

"Cynsail ganolog ymgyrch y BMA ydy 'Mae'n ymddangos yn baradocsaidd darparu gofal iechyd yn defnyddio nwyddau a gwasanaethau a allai mewn gwirionedd niweidio iechyd oherwydd eu bod yn methu ag amddiffyn hawliau llafur sylfaenol' - roedd hwn yn sentiment yr oedd y bobl yn y seminar yn cytuno ag o."

Yn y seminar hefyd cafwyd trafodaeth ynglŷn â sut y mae’r GIG, yn rhannol o ganlyniad i ymgyrch y BMA, wedi dechrau cymryd camau i wella amodau gwaith cynhyrchwyr nifer o gynhyrchion ar gyfer y GIG. Mae hynny'n cynnwys creu 'Cod Ymddygiad i Gyflenwyr' a’i ar waith yn 2009 a 'System Sicrwydd Safonau Llafur' archwiliadwy yn 2012. Dangoswyd bod y camau hyn wedi gwella amodau gwaith gweithwyr sy'n cynhyrchu offer llawfeddygol ym Mhacistan, ac yn raddol maent yn cael eu cyflwyno ar gyfer eitemau risg uchel eraill y mae angen eu caffael. Cafwyd llwyddiant yn lleol hefyd drwy gaffael gwisgoedd GIG Cymru mewn modd moesegol.

Prif bwrpas y seminar oedd codi ymwybyddiaeth am yr achos hwn ac annog rhagor o welliant o ran yr amodau gwaith anfoesegol sydd wedi eu cofnodi. Roedd gan y mynychwyr ddiddordeb mewn archwilio sut y gallai ein hysgol ni gyflwyno egwyddorion masnachu moesegol wrth gaffael gwisgoedd staff a myfyrwyr ac offer sgiliau clinigol, a sut y gellid codi ymwybyddiaeth am y mater hwn ymhlith myfyrwyr sy'n gwneud eu hyfforddiant cyn-gofrestru, a'r potensial sydd ar gyfer ystyried gwerthuso cynhyrchion gofal iechyd er mwyn ystyried beth yw gwir gostau eu defnyddio.

Mae croeso i chi gysylltu â Jude Field (j.field@bangor.ac.uk) neu Lucy Bryning (l.brying@bangor.ac.uk) pe bai gennych ddiddordeb bod yn rhan o ymchwilio ymhellach i'r pwnc hwn.

I gael gwybodaeth ynglŷn ag ymgyrch 'Masnach Feddygol Deg' Cymdeithas Feddygol Prydain, ewch i:

https://www.bma.org.uk/collective-voice/influence/international-work/fair-medical-trade/ethical-procurement-issues 

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2017