Penodi’r Athro Jo Rycroft-Malone yn Aelod Annibynol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae’r Athror Jo Rycroft-Malone o Brifysgol Bangor wedi ei phenodi fel aelod annibynol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae'r Athro Rycroft-Malone yn Athro mewn Gwasanaethau Iechyd ac Ymchwil Gweithredu, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Iechyd, ac arweinydd academaidd Prifysgol Bangor dros effaith.  Hyfforddodd fel nyrs yng nghanol yr 1980au yn Llundain ac yn ddiweddarach, graddiodd mewn seicoleg a seicoleg galwedigaethol cyn cael ei PhD o Brifysgol Southampton yn 2002.

Yn rhyngwladol, mae'n adnabyddus am ei hymchwil i sut gallai gwasanaethau iechyd gau'r bwlch rhwng yr hyn a wyddom a'r hyn sy'n cael ei arfer, fel bod y gofal y mae cleifion yn ei gael yn fwy seiliedig ar dystiolaeth. Dros y 5 mlynedd diwethaf, ynghyd â'i chydweithwyr, mae wedi datblygu rhaglen Ymchwil Gweithredu sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol ym Mhrifysgol Bangor (Implement@Bangor), yn cynnwys datblygu'r Ddoethuriaeth Broffesiynol gyntaf mewn Gweithredu.

Jo hefyd yw Cadeirydd presennol Grŵp Strategaeth Gweithredu'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE). Mae ar nifer o grwpiau strategaeth, cyllid a grwpiau 'tanc trafod' cenedlaethol yn cynnwys 'Grŵp Agenda Ymchwil Effeithiolrwydd Clinigol' Prif Swyddog Meddygol (Lloegr), bwrdd comisiynu Rhaglen Gwasanaethau Iechyd a Darparu Ymchwil y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol, Cynllun Cymrodoriaeth Paratoi Gwybodaeth a Phwyllgor Sefydliad Canada ar gyfer Cyfnewid a Chyfieithu Gwybodaeth Ymchwil Iechyd. Jo oedd golygydd cyntaf y cylchgrawn cenedlaethol Worldviews on Evidence-Based Nursing ac ar hyn o bryd mae ar fwrdd golygyddol BioMed Central Implementation Science.

 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2014