Gwaith hyfforddi ym maes dementia yn cael sylw mewn rhaglen ddogfen

Mae'r gwaith a wnaed i gefnogi a hyfforddi gofalwyr pobl â dementia, a gynhaliwyd gan Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor wedi cael sylw ar raglen Dementia: Making a Difference ar BBC 2 Wales.

Mae dementia yn debygol o effeithio ar un o bob tri o bobl dros 65 oed a gall ei effaith fod yn ddinistriol. Mae'r rhaglen yn edrych ar sut y gall gwaith arloesol gynnig rhywfaint o obaith ar gyfer y dyfodol, sut mae gofalwyr proffesiynol yn dysgu dulliau newydd, a sut mae pobl yn ystod cyfnod cynnar y clefyd a'u teuluoedd yn delio â dementia

Mae clip am hyfforddiant gofal dementia gan Brifysgol Bangor i’w weld yma: Hyfforddiant Gofal Dementia

I weld yr holl glipiau o'r rhaglen deledu BBC: Cliciwch yma

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2012