UKCRC yn cydnabod arbenigedd treialon clinigol Bangor

Yr wythnos hon cafodd Sefydliad Hapdreialon Iechyd Gogledd Cymru (Uned Dreialon Clinigol NWORTH) newyddion da pellach (yr wythnos ddiwethaf cytunodd Llywodraeth Cymru i ymestyn eu cyllid) gan eu bod wedi cael eu hail-achredu'n llwyddiannus am 5 mlynedd arall yn dilyn Proses Adolygu Cofrestriad 2017 a arweiniwyd gan Bwyllgor Adolygu Rhyngwladol o arbenigwyr. 

Bwriad y broses gofrestru, sydd wedi cael ei chynnal er 2007, yw tynnu sylw at yr arbenigedd o ansawdd uchel sydd ar gael i gynnal treialon clinigol yn y Deyrnas Unedig.  Mae Unedau Treialon Clinigol yn unedau arbenigol sy'n tynnu ynghyd yr arbenigedd sydd ei hangen i gynnal treial clinigol, yn cynnwys ystadegwyr, rheolwyr treialon, arbenigwyr technoleg gwybodaeth a chlinigwyr.  Fel rhan o'r broses gofrestru roedd yn rhaid i NWORTH ddangos ei gallu i gydlynu'n ganolog dreialon clinigol ac astudiaethau eraill mewn sawl canolfan, a chymryd cyfrifoldeb cyffredinol dros gynllun, cynnal, rheoli data, cyhoeddusrwydd a dadansoddi treial yn unol â safonau a rheoliadau priodol.  

Yn ôl y sylwadau o'r panel roedd NWORTH "... wedi cyflwyno cais wedi'i saernïo'n dda a oedd yn rhoi tystiolaeth glir o brofiad gweithredol mewn cynllunio a chynnal treialon clinigol ar raddfa fawr mewn sawl canolfan". 

Meddai'r Athro Paul Brocklehurst, Cyfarwyddwr NWORTH "Dwi wrth fy modd efo'r newyddion ac mae'r gydnabyddiaeth yma'n tystio i gryfder yr uned sy'n elfen greiddiol o'r Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd. Mae cael achrediad yr UKCRC yn gydnabyddiaeth o safle cenedlaethol yr uned ac mae'n dilyn proses asesu drwyadl na lwyddodd rhai unedau ym Mhrydain i'w phasio."

Mae'r canlyniadau llawn ar gael yma.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Awst 2017