Dathlu rhagoriaeth nyrsio yng ngogledd Cymru

L-r: Steffan Roberts, Dr Malcolm Godwin and Prof Christopher Burton at the Awards Evening.: Ch-dd: Steffan Roberts, Dr Malcolm Godwin a'r Athro Christopher Burton yn ystod y Noson Wobrwyo.

Rhoddwyd cydnabyddiaeth i ragoriaeth nyrsio yng ngogledd Cymru yn ddiweddar yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru 2015. Roedd tri chynrychiolydd o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer mewn tri categori.

Dyfarnwyd y wobr 'Myfyriwr Nyrsio’r Flwyddyn' i Steffan Roberts i gydnabod ei ymrwymiad a'i gyfraniad i ansawdd a diogelwch cleifion. Mae Steffan bellach wedi cwblhau ei radd nyrsio, ac yn gweithio fel Nyrs Staff yng Nghaerdydd. Mae'r Ysgol yn edrych ymlaen at ei groesawu yn ôl i’w seremoni raddio'r haf nesaf.

Enillodd Dr Malcolm Godwin, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol (Addysgu a Dysgu) y wobr am 'Addysgwr Nyrsio’r Flwyddyn'. Mae Malcolm yn arbenigwr mewn addysg nyrsio ac wedi arwain gwelliannau ym maes addysg a hyfforddiant i nyrsys yn lleol, ac ar draws Cymru a Lloegr, gan ddarparu cefnogaeth ardderchog i fyfyrwyr a chydweithwyr yn y GIG lleol hefyd.

Roedd yr Athro Christopher Burton, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol, yn ail yng nghategori’r wobr am Ymchwilydd Nyrsio. Mae gan Chris raglen ymchwil ryngwladol a sylweddol mewn gofalu am gleifion strôc a’u hadferiad gyda’r nod o wella’r sail tystiolaeth i ofalu am gleifion.

Mae cynllun Gwobr Nyrs y Flwyddyn, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn rhoi cyfle i gymheiriaid a chydweithwyr nyrsio roi cydnabyddiaeth i’r rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth, ac wedi mynd y filltir ychwanegol wrth weithio i sicrhau gofal cadarnhaol i gleifion.

Meddai Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Jo Rycroft Malone:

"Rwy'n falch iawn bod cyfraniad staff a myfyrwyr yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd at ragoriaeth mewn nyrsio ac addysg nyrsio wedi cael ei gydnabod fel hyn. Mae'r gwobrau yn gyfle i ddathlu’r holl fyfyrwyr a nyrsys sy'n anelu at ddarparu rhagoriaeth mewn addysg gofal iechyd, ymchwil ac ymarfer clinigol ac yn llwyddo i gyflawni hynny".

 

Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2015