Creu claf rhithwir ‘wedi’i efelychu’n gyfrifiadurol’ er mwyn hyfforddi clinigwyr

Yn y dyfodol, os bydd arnoch angen llawdriniaeth gymhleth, bydd y llawfeddyg yn gallu paratoi a hyd yn oed ymarfer ar ei chyfer ar efelychiad rhithwir o’ch corff eich hun neu o’r rhan o’ch corff sydd angen sylw.

Ar hyn o bryd, mae’r dechnoleg ar y gweill i greu ‘efelychiadau’ o’r corff cyfan er mwyn hyfforddi llawfeddygon a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes meddygaeth ar sut i ymgymryd ag amryw o driniaethau meddygol, gan ddefnyddio ‘dymïau’ rhithwir sy’n ymddangos fel pe baent yno, a hyd yn oed yn ‘teimlo’ fel pe baent yno, a hynny trwy ddefnydd graffeg gyfrifiadurol 3D, dyfeisiau haptig neu ‘adborth grym’.

Yr Athro Nigel John o Ysgol Cyfrifiadureg y Brifysgol  yn cynnal scan uwchsain ar ‘glaf rhithwir' sy’n cael ei gyfleu ar gyfrifiadur 3D.Yr Athro Nigel John o Ysgol Cyfrifiadureg y Brifysgol yn cynnal scan uwchsain ar ‘glaf rhithwir' sy’n cael ei gyfleu ar gyfrifiadur 3D.Mae’r Athro Nigel John o Brifysgol Bangor yn arwain yn y maes yng Nghymru o ran datblygu’r dechnoleg hon, ac yntau’n arbenigwr mewn technoleg yn yr Ysgol Gyfrifiadureg. Yr Athro John sy’n arwain yr Uned Dadansoddi a Delweddu Meddygol Uwch o fewn yr Ysgol, a hefyd y Sefydliad Ymchwil mewn Cyfrifiadureg Weledol (RIVIC), mewn partneriaeth â’r GIG yng Nghymru a Phrifysgolion Aberystwyth, Caerdydd ac Abertawe. Un o brif ganolbwyntiau tîm yr Athro John ym Mangor yw addasu cyfrifiaduro gweledol a realiti rhithwir er mwyn darparu dysgu cost-effeithiol ar gyfer amrywiaeth o weithredoedd meddygol.

Yn ddiweddar, mae’r Athro John wedi dychwelyd o daith i Awstralia a Singapôr trwy Gymrodoriaeth Deithio Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill (http://www.wcmt.org.uk/). Trwy’r ymweliad, bu modd i’r Athro John greu cyfleoedd ar gyfer cydweithrediad rhyngwladol ar brojectau a all gyfrannu at greu Claf Rhyngweithiol Rhithwir (VIP) – cronfa ddata gyfrifiadurol benodol yn cynnwys y data delweddol, a modelau ffisiolegol a phatholegol y gellir rhyngweithio â hwy mewn amser real, gan ddefnyddio synhwyrau a medrau naturiol. Y nod yw bod y VIP yn dod yn offeryn derbyniol yn y cwricwlwm addysg feddygol, a hefyd yn gymorth i ymarferwyr meddygol wrth iddynt gyflawni tasgau beunyddiol eu proffesiwn. Sefydlodd yr Athro John gysylltiadau cryf â Chanolfan Ymchwil E-Iechyd Awstralia (Australian eHealth Research Centre) yn Brisbane, ac â Phrifysgol Dechnolegol Nanyang yn Singapôr.

Meddai’r Athro John, “Yn awr, rydym yn bwriadu weithio ar y cyd ar brojectau ar gyfer hyfforddi mewn gweithredoedd endosgopegol, ac ar hapteg a yrrir gan ddelweddau – dyfeisiau sy’n caniatáu inni ychwanegu grym ac adborth cyffyrddol ar ryngweithio â delweddau meddygol.”

Er y gall technoleg efelychu cyfrifiadurol ddarparu amgylchedd diogel ar gyfer hyfforddiant mewn gweithredoedd meddygol, mae llawer o broblemau i’w goresgyn, megis cyfyngiadau technolegol, ffactorau dynol, a dilysiad.

Mae tîm yr Athro Nigel John ym Mhrifysgol Bangor eisoes wedi datblygu efelychiadau ar gyfer gweithredoedd meddygol penodol a ddefnyddir gan radiolegwyr ymyriadol er mwyn mewnosod cathetrau i rydwelïau, ynghyd â system adborth ar gyfer gosod nodwydd i mewn i aren neu afu – lle mae’r hyfforddai sy’n dal y ‘nodwydd’ yn teimlo gwrthsafiad wrth i’r nodwydd gael ei wthio trwy ‘gnawd rhithwir’ sydd i’w weld ar y sgrîn. Os bydd y nodwydd yn taro asen yn ddamweiniol, yna mae’r gwrthsafiad grym yn cynyddu i atal y nodwydd, gan na all dreiddio trwy asgwrn.   

Maent hefyd wedi lansio cymhwysiad ar gyfer cyfrifiadur tabled yn ddiweddar, y gall y gall hyfforddeion ym maes llawfeddygaeth yr ymennydd ei ddefnyddio i ddraenio hylif gormodol sy’n creu pwysau oddi mewn i’r ymennydd – gweithred a gyflawnir yn aml mewn adrannau niwro-lawfeddygaeth.

Llŷr ap Cenydd, o’r Uned Dadansoddi a Delweddu Meddygol Uwch, a ddatblygodd gymhwysiad y ‘VCath’, sydd wedi’i gynllunio i fynd â hyfforddai mewn niwro-lawfeddygaeth trwy gamau lleoli a mewnosod cathetr i ymennydd claf 3D rhithwir. Bu’n gweithio ar y cyd â Mr Nick Phillips, Niwro-lawfeddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Cyffredinol Leeds, a’r Athro William Gray, Athro Niwro-lawfeddygaeth Weithredol yn y Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, Prifysgol Caerdydd. 

Meddai’r Athro John, “Bydd hyfforddi wrth ddefnyddio hwn ac efelychyddion cost-effeithiol eraill yn gymorth i roi’r medrau angenrheidiol i hyfforddeion meddygol fel y gallant gwblhau amryw o weithredoedd yn ddiogel ac yn effeithiol. Maent yn darparu llwyfan ar gyfer ymarfer ailadroddus, a’r posibiliadau ganddynt o wella’r canlyniadau i gleifion, gwneud y triniaethau’n ddiogelach, a gwella profiad y cleifion. Ym Mhrifysgol Bangor, rydym ar y blaen mewn nifer o’r datblygiadau hyn,  byddwn yn dechrau gweithio, cyn hir, ar broject newydd a gyllidir gan yr Undeb Ewropeaidd i ddarparu offeryn hyfforddi ar gyfer anesthetyddion.”

Wrth sôn am gymhwysiad y VCath, dywedodd Nick Phillips, Niwro-lawfeddyg Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Clinigol yn yr Adran Niwro-lawfeddygaeth, Ysbyty Cyffredinol Leeds, “Mae niwro-lawfeddygaeth yn arbenigedd risg uchel, ac mae rhoi cyfleoedd diogel ar gyfer hyfforddi bob amser yn her. Mae’r hyfforddiant hwn yn rhoi cyfle i hyfforddeion ennill y rhan fwyaf o’r medrau sydd eu hangen ar gyfer y weithred hon mewn amgylchedd sy’n ddiogel ac yn ddi-risg. Mae’n hyrwyddo trafodaeth â hyfforddwyr ac yn ddull rhagorol o ddysgu’r medrau sy’n ofynnol.”

Meddai’r Athro William Gray, Athro Niwro-lawfeddygaeth Weithredol yn y Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, Prifysgol Caerdydd, “Mae VCath yn gymhwysiad cyffrous newydd ar gyfer iPad, sy’n rhoi cyfle i hyfforddeion ddysgu’r medrau theoretig ac ymarferol sy’n ofynnol ar gyfer cyflwyno cathetr fentriglol mewn amgylchedd realistaidd sydd wedi’i efelychu. Mae’n offeryn gwerthfawr o ran gwella’r broses o ddysgu cyfres graidd o fedrau ac yn ddatblygiad o bwys o ran cymhwyso efelychu at hyfforddiant niwro-lawfeddygol.”

Dyddiad cyhoeddi: 29 Awst 2013