Myfyriwr nyrsio anabledd dysgu yn gwirfoddoli yn Rwmania

Mae Yenita Singer, myfyriwr blwyddyn gyntaf nyrsio anabledd dysgu, Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor; wedi bod yn llwyddiannus i gael y cyfle i wirfoddoli dros yr haf ym Mhrosiect Oltenia, Rwmania gyda The LIFE Foundation.  Dyma'r ail myfyrwyr nyrsio anabledd dysgu o Fangor i wirfoddoli ym Mhrosiect Oltenia.  Fe fuodd Lyndsey Hughes yn Rwmania ar ddiwedd ei thrydedd flwyddyn o’r cwrs nyrsio anabledd dysgu yn Awst 2016.  Mae'r Lyndsey, erbyn hyn yn nyrs anabledd dysgu cofrestredig yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac wedi cyfarfod â Yenita i rannu ei phrofiad.

Mae'r prosiect yn gweithio efo plant ag anghenion dysgu sy'n byw mewn cartrefi neu oedolion sy'n byw mewn sefydliadau.  Mae'r elusen yn dibynnu ar wirfoddolwyr gan fod y cartrefi a'r sefydliadau yn brin o staff, a hefyd dydi gofal ddim yn waith sy'n cael ei barchu.  Mae hyn yn golygu nad ydy'r plant a'r oedolion yn gadael yr adeilad lle maen nhw'n byw yn aml iawn.  Mae'r gwirfoddolwyr yn gweithio efo'r unigolion gan ddefnyddio dulliau rhyngweithio dwys i greu cynllun gofal gall y staff eu dilyn.  Mi fydd y cynlluniau yn lleihau ymddygiad sefydliadol ac yn cefnogi'r plant ac oedolion i fyw bywyd mor annibynnol â phosib.

Bydd Yenita yn hedfan i Romania ar Awst 26ain 2017 i wirfoddoli.  Wedi darllen am sefydliadau yn y DU fel rhan o’i gradd nyrsio, dywedodd Yenita “dwi'n edrych ymlaen at fod yn rhan o brosiect sy'n gwella bywydau pobl sy'n byw mewn amgylchiadau heriol.  Dwi'n lwcus iawn fy mod wedi gweithio mewn gwersyll haf a oedd yn arbenigo mewn gweithgareddau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu o’r blaen, ac fe addewais i gymryd bob cyfle i weithio efo pobl arbennig ac i brofi gofal mewn diwylliant gwahanol”

I godi arian tuag at y prosiect yn Romania mae Yenita yn ymgymryd â nifer o weithgareddau:

  • Cerdded i gopa 3 mynydd uchaf Cymru, Mai 27, 2017.
  • Seiclo am 24 awr ar feic statig (dyddiad a lleoliad i'w gadarnhau)
  • Gwerthu gemwaith a chardiau.

I noddi Yenita a’i chefnogi i godi arian tuag at Brosiect Oltenia, Romania ewch at: https://www.justgiving.com/crowdfunding/romania-yenita-singer

 Neu am fwy o wybodaeth e-bostiwch Yenita Singer: hbu8cb@bangor.ac.uk

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2017