Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn penodi tair o Brifysgol Bangor

 Sara Stockwell, Erin Jones a Sioned Everiss Sara Stockwell, Erin Jones a Sioned EverissMae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi tair myfyrwraig o Fangor yn llysgenhadon er mwyn ceisio annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i astudio trwy’r Gymraeg ar lefel addysg uwch.

Bydd Sara Stockwell, Erin Jones a Sioned Everiss yn dechrau ar eu gwaith fis yma ac yn gyfrifol am gwblhau gwahanol dasgau drwy’r flwyddyn.

Eu prif rôl fydd ceisio dwyn perswâd ar ddisgyblion ysgol i ddilyn rhan o’u hastudiaethau prifysgol trwy’r Gymraeg a chyflwyno’r manteision a ddaw yn sgil hynny.

Byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn ymweliadau ysgolion, ffeiriau UCAS ac Eisteddfodau yn ogystal ag yn cofnodi eu profiadau mewn blog newydd sbon.

Llais y Llysgennad yw enw’r blog sy’n rhoi darlun o fywyd myfyriwr cyfrwng Cymraeg ar ffurf lluniau, fideos a llawer mwy.

Dewisodd Sara o’r Felinheli aros ym Mangor ar ôl derbyn ei haddysg yn Ysgol Tryfan gan fod y brifysgol yn cynnig opsiwn i astudio Cemeg yn ddwyieithog:

‘‘Mae astudio’r cwrs yn ddwyieithog yn golygu fy mod yn dysgu ac yn defnyddio termau gwyddonol yn y ddwy iaith fydd yn fy mharatoi at fyd gwaith ar ôl graddio.’’

Bydd yn rhaid iddynt fod yn gyfarwydd â Chynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg a sôn am y profiad o dderbyn arian fel yr eglura Erin Jones o’r Bontnewydd, cyn ddisgybl Ysgol Syr Hugh Owen sy’n astudio Nyrsio Oedolion:

‘‘Gan fy mod wedi derbyn ysgoloriaeth, byddaf yn gallu sôn wrth ddarpar fyfyrwyr am y broses ymgeisio a’u cymell i wneud cais. Bydd bod yn llysgennad yn gyfle gwych i bwysleisio gwerth addysg uwch cyfrwng Cymraeg a chynorthwyo disgyblion i wneud y dewis cywir.’’

Gobaith Sioned o Langernyw sydd bellach yn astudio Troseddeg, Cyfiawnder Troseddol a Chymdeithaseg ar ôl mynychu Ysgol Dyffryn Conwy, yw lleddfu unrhyw bryderon sydd gan ddisgyblion am fentro i fyd addysg uwch cyfrwng Cymraeg:

‘‘Mae’r dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg yn dueddol o fod yn llai sy’n golygu fod gennych berthynas well gyda’ch cyd-fyfyrwyr a darlithwyr. Does dim angen poeni o gwbl, mae pawb yn yr un sefyllfa felly ewch amdani a mwynhewch!’’

Gellir dilyn blog llysgenhadon y Coleg Cymraeg yma.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2016