Ymgeiswyr ar gyfer mynediad mis Medi 2013

Datganiad UCAS i Ddarparwyr Addysg

Neges UCAS i fyfyrwyr 

Myfyrwyr sy’n ymgeisio am le ar gyrsiau nyrsio a ariannir yng Nghymru (pob maes nyrsio, h.y. oedolion, anableddau iechyd, iechyd meddwl ac iechyd plant) a chyrsiau therapi galwedigaethol yng Ngogledd Cymru a chyrsiau ODP ledled Cymru fydd yn dechrau ym mis Medi 2013.

Mae'r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (NLIAH) wrthi’n cynnal proses i gadarnhau pa brifysgolion fydd yn cynnig cyrsiau ym mhob maes o addysg nyrsio (oedolion, anableddau dysgu, iechyd meddwl ac iechyd plant) a therapi galwedigaethol yng Ngogledd Cymru a chwrs ODP Cymru gyfan fydd yn dechrau ym mis Medi 2013.

Mae’r NLIAH yn gwneud hyn er mwyn sicrhau eich bod yn cael addysg o’r ansawdd gorau posib ac yn cael eich paratoi’n briodol i ymuno â’r gweithlu ar ôl i chi gymhwyso.

Mae’r prifysgolion yn hysbysebu’r cyrsiau hyn ar wefan UCAS fel arfer a chynghorir chi i gyflwyno eich ceisiadau yn unol ag amserlen UCAS. Bydd y prifysgolion yn gwybod canlyniad proses yr NLIAH erbyn diwedd mis Ionawr 2013 a byddant yn gwybod erbyn hynny faint o leoedd fydd ar gael ar y cyrsiau fydd yn dechrau yn yr hydref 2013.

 Os byddwch yn dewis cwrs na fydd yn cael ei gynnig gan y brifysgol rydych wedi ei dewis ym mis Medi 2013, cewch drosglwyddo eich cais i’r brifysgol a ddewiswyd gan NLIAH neu gallwch newid i gwrs arall. 

Bydd y broses ymgeisio’n parhau wedyn yn unol â chylch UCAS. Os ydych eisoes wedi cael cynnig lle wedi’i ohirio ar gyfer mis Medi 2013 ac os nad yw cynnig y brifysgol wedi bod yn llwyddiannus, yna cewch drosglwyddo eich lle i’r brifysgol a ddewiswyd gan yr NLIAH. 

Sylwer:

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i’r cyrsiau canlynol a gynigir gan Brifysgol Bangor ar hyn o bryd:

BN Nyrsio 

  •  Oedolion
  • Plant
  • Anabledd Dysgu
  • Iechyd Meddwl 

PGDip Therapi Galwedigaethol  

Dip (AU) Ymarfer mewn Adran Lawdriniaeth

NI FYDD hyn yn effeithio ar fyfyrwyr sydd wedi eu derbyn i unrhyw un o’r cyrsiau BN Nyrsio fydd yn dechrau ym mis Mawrth 2013.

Os ydych wedi cael cynnig lle wedi’i ohirio ar gyfer mis Medi 2013 ac os nad yw cynnig y brifysgol wedi bod yn llwyddiannus, yna cewch drosglwyddo eich lle i’r brifysgol a ddewiswyd gan yr NLIAH. Bydd y broses wedi dod i ben erbyn mis Chwefror 2013. Os hoffech ragor o wybodaeth am y broses hon, ewch i wefan UCAS, gwe-dudalennau Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor http://www.bangor.ac.uk/healthcaresciences/ neu wefan yr NLIAH www.nliah.wales.nhs.uk

Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2012