Logo newydd i NWORTH wrth i'r uned treialon clinigol barhau i dyfu

Sefydliad Hap-dreialon Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru (NWORTH) yw'r Uned Treialon Clinigol yng Ngogledd Cymru sydd wedi'i chofrestru ag UKCRC (#23). Mae NWORTH yn cynnig gwasanaeth cydweithredol iawn sy'n galluogi timau ymchwil i gynllunio a chyflwyno astudiaethau o ansawdd uchel ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Gyda thros draean o'r holl geisiadau amlinellol yn cael eu hariannu dros y tair blynedd diwethaf, mae cyfradd lwyddiant NWORTH yn gryf iawn ac yn adlewyrchu'r gwasanaeth ystwyth, hyblyg ac wedi'i deilwra a ddarparwn. Yn ystod 2015-18, dyfarnwyd 24 grant.

Er mwyn arddangos ein huchelgais i dyfu ymhellach rydym wedi ymgymryd â phroses ddemocrataidd o fewn yr uned i ddewis logo newydd. Gobeithiwn y byddwch yn ei hoffi. Mae ein logo newydd yn adlewyrchu ein gweledigaeth o fod yn aelod allweddol o dimau ymchwil yn y gwaith o gynllunio a chynnal treialon ac astudiaethau clinigol o ymyriadau cymhleth. Rydym yn elfen bwysig o isadeiledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor. Fel rhan o'n strategaeth farchnata newydd, gobeithiwn barhau i dyfu ein busnes a chynorthwyo timau ymchwil i lwyddo i ennill grantiau er mwyn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i bobl Cymru a thu hwnt.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2018