Myfyriwr nyrsio ym Mangor yn cyrraedd rhestr fer gwobr ryngwladol

Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn falch o gyhoeddi bod Robson Sengwe (myfyriwr nyrsio 3ydd blwyddyn yng NghampwsWrecsam Prifysgol Bangor) wedi cyrraedd rhestr fer rownd derfynol Gwobrau Student Nursing Times 2017 am gyfraniad eithriadol i faterion myfyrwyr. Mae Robson yn fyfyriwr eithriadol yn arbennig oherwydd y gefnogaeth mae'n ei chynnig i'w gyfoedion. Cafodd ei ethol yn gadeirydd y grŵp arweinwyr cyfoed gan y ddau gampws yn Wrecsam a Bangor oherwydd ei fod wedi cefnogi pob un o fyfyrwyr newydd yr ysgolion yn rheolaidd trwy'r cyfnod cyfweld a hefyd yn ystod yr wythnos groeso ac ar ôl hynny.

Mae gan Robson benderfyniad tawel i lwyddo ac mae'n gwneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn teimlo bod croeso iddynt. Mae hefyd yn cefnogi ei gyfoedion gyda'u hastudiaethau ac yn sicrhau eu bod yn derbyn unrhyw gefnogaeth maent eu hangen. Llwyddodd y myfyrwyr ar gampws Wrecsam i gael mynediad at gyfoedion sy'n fentoriaid ysgrifennu ar y safle oherwydd ei benderfyniad ef. Mae hefyd yn gweithio fel swyddog i'r wasg i Gymdeithas Nyrsio Prifysgol Bangor a llwyddodd  fel aelod o dîm i sicrhau bod y ddawns Nadolig elusennol ddiwethaf yn llwyddiant ysgubol trwy godi bron i £700 ar gyfer elusen leol i'r digartref.

Mae gan Robson enw da ym mhob man. Caiff ei gydnabod gan ei diwtoriaid, ei gyfoedion a'i gydweithwyr wrth ymarfer, fel hogyn iawn ym myd nyrsio ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddo yn rownd derfynol y wobr ac yn ei yrfa fel nyrs.

Meddai'r Athro Chris Burton, Pennaeth Gwyddorau Gofal Iechyd, “Mae Robson yn llwyr haeddu cael ei enwebu ar gyfer y wobr myfyrwyr nyrsio genedlaethol a chlodwiw hon, ac mae'n dilyn yn ôl troed myfyrwyr nyrsio Bangor sydd wedi ennill Gwobr Myfyriwr Nyrsio y flwyddyn y RCN, dwy flynedd yn olynol. Mae'r gwobrau hyn yn gydnabyddiaeth glir o safon y myfyrwyr nyrsio y mae ein henw da am ragoriaeth addysgu ac ymchwil yn eu denu ac rwy'n siŵr y bydd Robson, fel ei ragflaenwyr yn mynd ymlaen i gael effaith gadarnhaol iawn ar wasanaethau gofal iechyd ar draws gogledd Cymru.”

 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2017