Bydwragedd dan hyfforddiant wedi'u hysbrydoli i godi arian i ddioddefwyr trais

Mae Tîm Ogwen yn grŵp o fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n astudio bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Yn ddiweddar bu'r bydwragedd dan hyfforddiant yn gwneud project grŵp am drais yn erbyn merched a sut y gall gwahanol fathau o drais effeithio ar ferched yn ystod beichiogrwydd, esgor ac ar ôl geni.

Yn ystod eu hymchwil daethant ar draws pynciau oedd yn peri llawer o ofid a thrallod iddynt, fel priodasau dan orfod, anffurfio organau cenhedlu benywod, masnachu pobl, trais domestig ac mewn rhyfeloedd ynghyd â thrais yn y cartref.

Gwnaethant benderfynu fel grŵp na allent ysgrifennu aseiniad academaidd yn unig am hyn ac yna troi eu cefnau ar y pwnc. Ond yn hytrach eu bod am geisio gwneud gwahaniaeth ymarferol trwy godi arian i'r elusen Eaves,  sydd â'r genhadaeth o ddatgelu trais yn erbyn menywod a merched yn y DU a mynd i'r afael â'r trais hwnnw. Penderfynodd y grŵp wneud her y wifren wib  ac meddai un o'r trefnwyr, Andrea Thomas, "Gan fod rhai o aelodau'r grŵp yn dioddef o ofn uchder roedd yn golygu y byddai'n her wirioneddol i ni".  

Ar 8 Mawrth 2015, diwrnod rhyngwladol merched, aeth y grŵp i Flaenau Ffestiniog i fynd ar y wifren wib Titan, lle mae'r reidwyr yn cyrraedd cyflymder o 70 milltir yr awr a mwy dros y ffriddoedd, y mynyddoedd a’r chwarel.

"Hyd yma rydym wedi codi £568.50, sy'n anhygoel ac rydym wedi'n syfrdanu gan haelioni pawb sydd wedi ein cefnogi. Mae'r gronfa yn dal yn agored ac rydym yn gobeithio cyrraedd £600 gan felly dyblu ein targed gwreiddiol o £300. Os hoffai unrhyw un ein noddi a'n helpu i wneud gwahaniaeth ewch i’r cyswllt canlynol: https://www.justgiving.com/Criw-Ogwen-Group1 meddai Andrea.

Nid yn unig y mae'r bydwragedd dan hyfforddiant hyn wedi codi arian, ond trwy eu hymdrechion daeth rheolwr llinell gymorth C.A.L.L. i wybod am y mater. Mae'r llinell gymorth hon yn cynnig cynhaliaeth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth am iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru. Edrychodd ar y gronfa ddata a sylwodd nad oedd ganddynt unrhyw sefydliad sy'n helpu merched sy'n dioddef trais ar eu system. Ers hynny mae wedi ychwanegu Eaves i'r gronfa ddata ac mae C.A.L.L. yn awr yn cyfeirio dioddefwyr at Eaves. Ni fyddai hyn wedi digwydd oni bai am weithredoedd y myfyrwyr hyn sydd ym mlwyddyn gyntaf eu cwrs ac eisoes yn cyfrannu at les merched sy'n agored i niwed yng Nghymru.

Os hoffech wybod sut aeth y digwyddiad codi arian gwyliwch y fideo. https://www.youtube.com/watch?v=xtRIE8yBSjc

Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2015