Ymchwil gan Brifysgol Bangor i fynediad i feddyginiaethau at glefydau prin

Yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor, mae cleifion â chlefydau prin yn aml yn cael profiadau llawn her, sy’n creu anawsterau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Cafodd ymchwilwyr yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau fod cleifion yn aml yn wynebu anawsterau o ran cael diagnosis i’w cyflwr, mynediad at ofal arbenigol, a bod triniaeth effeithiol ar gael.

Er y cynnydd ers 10 mlynedd yn nifer y meddyginiaethau sydd ar gael i drin clefydau prin, mae mynediad at driniaeth yn broblemus, yn bennaf oherwydd eu costau uchel. 

Siobhan Bourke, sydd yn cynnal yr ymchwil.Meddai Siobhan Bourke, sy’n astudio ar gyfer PhD, “Mae’r cyfryngau wedi dangos llawer o ddiddordeb mewn cyffuriau costus at ganser, ond nid y rhain yw’r unig feddyginiaethau lle ceir anhawster i gael cyllid gan y GIG. Mae ein hymchwilydd wedi cael y gall y rhai sy’n dioddef gan glefydau prin ddisgwyl am flynyddoedd i gael mynediad at foddion.” 

“Ar hyn o bryd, mae canllawiau ar gyllido’r meddyginiaethau hyn yn amrywio ar draws y DU, ac rydym yn gobeithio y gallwn, wrth edrych ar ddewisiadau’r cyhoedd o ran cyllido, gynorthwyo i ddylanwadu ar bolisi.”

Mae Siobhan wrthi ar hyn o bryd yn adeiladu ar yr astudiaeth hon gan bwyso a mesur barn y cyhoedd ar y syniad fod y GIG yn cyllido meddyginiaethau at glefydau prin. Y bwriad yn y pen draw yw i benderfyniadau’r GIG ar gyllido adlewyrchu barn a dewisiadau ehangach pobl ynglŷn â dewisiadau o ran triniaeth.

“Mae hon yn astudiaeth gyffrous iawn,” ychwanegodd, “ac yn gyfle gwych i bobl Bangor roi eu barn am yr ymchwil hon.” Caiff unrhyw un sy’n awyddus i gymryd rhan yn y drafodaeth hon gysylltu â Siobhan Bourke trwy e-bost: rarediseases@bangor.ac.uk

Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2015