Dagrau a chwerthin wrth i'r hen a'r ifanc rannu profiadau

Dros y misoedd diwethaf, mewn canolfannau gofal ar draws Cymru, mae arbrawf cymdeithasol arloesol wedi digwydd - a bydd y canlyniadau'n siŵr o syfrdanu.  

Mewn cyfres newydd o dair rhaglen emosiynol ar S4C, sy'n dechrau nos Sul, 10 Rhagfyr, mae Hen Blant Bach yn ymchwilio i beth all ddigwydd pan mae chwech o blant bach yn rhannu eu gofal dydd gyda chriw o bensiynwyr - a'r effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib.

Mae tri chanolfan ddydd – yng Ngarnant, Blaenau Ffestiniog a Bangor - yn rhan o'r arbrawf wrth i gamerâu cudd ddilyn yr henoed a'r plant yn bwyta, chwarae a magu perthynas â'i gilydd dros gyfnod o dridiau. Yn ogystal, mae dwy seicolegydd o Brifysgol Bangor yn clustfeinio ar y sgyrsiau ac yn gosod gweithgareddau er mwyn dod â'r ddwy genhedlaeth yn nes at ei gilydd.

Canolfan ddydd i'r henoed yng Ngarnant, Sir Gaerfyrddin, yw'r lleoliad cyntaf i gynnal yr arbrawf wrth iddyn nhw groesawu plant rhwng dwy a phedair blwydd oed o feithrinfa Cae'r Ffair yng Ngorslas. 

Dr Nia Williams yw un o'r seicolegwyrYsgol Addysg, Prifysgol Bangor sy'n cymryd rhan yn y rhaglen ac mae hi'n arbenigo mewn datblygiad plant. Meddai:

"Mae'r cyfnod hyd at bedair oed yn allweddol i blant. Be' 'dan ni isio'i wybod ydi pa effaith mae treulio amser hefo pobl hŷn yn mynd i'w gael ar y datblygiad yma."

Meddai Dr Catrin Hedd Jones, sy'n seicolegydd ac yn ddarlithydd mewn astudiaethau dementia yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y Brifysgol:

"Mae unigedd yn gallu bod yn broblem gynyddol wrth i bobl fynd yn hŷn a 'dan ni'n gwybod bod gan bensiynwyr gymaint i'w gynnig. Fel hyn, mae'r bobl hŷn yn cael cyfle i gyfrannu yn hytrach na derbyn gofal. Wrth ddod â phlant i'w cwmni, mae'r bobl hŷn yn cael eu hannog i symud a chodi o'r seddi ar gyfer mwynhau gweithgareddau gyda'r plant."

Mae’r gyfres eleni yn elwa o gefnogaeth Ysgoloriaeth KESS 2 mewn partneriaeth a Darlun. 

Esbonia Dr Catrin Hedd Jones: “Mae'r gefnogaeth hyn wedi galluogi i ni gynnal ymchwil pwysig i effaith yr tri diwrnod ar y plant, oedolion a'r staff sydd ynghlwm ar sefydliadau. Rydym wedi apwyntio myfyrwraig o dan y cynllun, sydd gwneud Meistr Ymchwil a gyllidwyd gan KESS 2 ac yn gweithio ar y cyd gyda'r cwmni teledu a’r Brifysgol i ddatblygu’r gweithgaredd tra'n cwblhau gradd ymchwil meistr gan gasglu gwybodaeth cyn i’r plant a pobl hyn gwrdd a'i gilydd ac yn dilyn y wythnos o weithgareddau.

Mae KESS 2 yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe’i cyllidir yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Un o'r pensiynwyr a gafodd fudd o'r profiad oedd Noel Francis McNamara, neu Mac, sy'n 85 oed. Roedd Mac yn bryderus am sut y byddai'n ymateb i'r plant am ei fod wedi cael amser anodd iawn yn feddyliol dros y blynyddoedd diwethaf.

"Roedd y newid ynddo erbyn diwedd y tridiau yn rhyfeddol," meddai rheolwr y ganolfan dydd, Bernadette Thomas. "Ar y dechrau, roedd Mac bron yn ofn beth fyddai'n digwydd. Ond mae e wedi dod yn fyw gyda'r plant a bod y Mac 'dyn ni'n gwybod sydd yno, er nad ydyn ni'n gweld hynny o hyd."

Trwy'r dagrau a'r chwerthin, byddwn yn gweld bod gan y ddau grŵp oedran yma yn fwy yn gyffredin nag y byddai rhywun yn tybio.

Hen Blant Bach
Nos Sul 10 Rhagfyr 8.00, S4C
Isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael
Ar alw: s4c.cymru; BBC iPlayer a llwyfannau eraill 
Cynhyrchiad Darlun ar gyfer S4C mewn cydweithrediad â Sony 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017