Partneriaethau Iechyd i ddysgu, hyfforddi a darparu cefnogaeth ymarferol i weithwyr iechyd yn Lesotho

 

Mae rhai staff wedi ymweld â Lesotho a chyfarfod  â phartneriaid yn y project eisoes.Mae rhai staff wedi ymweld â Lesotho a chyfarfod â phartneriaid yn y project eisoes.Bydd yr Ysgol Gwyddorau Iechyd yn anfon staff allweddol gydag arbenigedd mewn trefnu, rheoli ac arwain ym maes gofal iechyd i Lesotho.

Mae’r Brifysgol yn cydweithio efo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru  ar broject a gyllidir gan yr Adran Datblygiad Rhyngwladol (DiFD) drwy Gynllun Partneriaethau Iechyd yr Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg.

Bydd y project 20 mis yn gweld y Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda chydweithwyr iechyd yn Quthing, Lesotho, yn Ne Affrica. Bydd yr Ysgol Gwyddorau Iechyd yn darparu hyfforddiant gloywi mewn sgiliau clinigol mewn canolfannau iechyd diarffordd, ac i gefnogi rheolwyr iechyd ar lefel ardal, gan ddilyn model 'hyfforddi'r hyfforddwr', fel y bydd yn gynaliadwy pan fydd y project yn dod i ben.

Meddai’r Athro Christopher Burton, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Gwyddorau Iechyd:

“Rwyf wrth fy modd ein bod am fedru cyfrannu arbenigedd a phrofiad staff yr Ysgol Gwyddorau Iechyd at ddatblygu gwasanaethau nyrsio yn Lesotho. Bydd y project yn mynd i’r afael â heriau  iechyd o bwys yn neheudir Affrica, ac mae’n esiampl wych o sut y gall yr Ysgol a chydweithwyr o’r Bwrdd Iechyd gydweithio gyda phartneriaid rhyngwladol er mwyn gwella iechyd ar draws y byd.”

Mae gan BIPBC gyswllt hir gyda’u partneriaid yn Lesotho, a byddent hwythau’n anfon gweithwyr iechyd gyda sgiliau gofal cychwynnol a sgiliau asesiadau clinigol fel rhan o’r project, a fydd hefyd yn gweld tîm Cymru’n elwa o weld sut y mae ymateb i heriau cyffredin fel darparu gofal iechyd yng nghefn gwlad Lesotho.

Aaron Pritchard, Swyddog Ymchwil yng Ngholeg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad, Likeleli Nkhatpetla a Kathrin Thomas (BIPBC) yn edrych ar fodel hyfforddiant meddygolAaron Pritchard, Swyddog Ymchwil yng Ngholeg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad, Likeleli Nkhatpetla a Kathrin Thomas (BIPBC) yn edrych ar fodel hyfforddiant meddygolDywedodd Dr Kathrin Thomas, Cadeirydd grŵp llywio BIPBC:

"Rydw i wedi ymweld â Quthing ac wedi gweld drosof fy hun yr heriau enfawr mae gweithwyr iechyd yn eu hwynebu, ac rwy'n llawn edmygedd am eu hymrwymiad a'u gwydnwch. Rydym yn dysgu gan ein gilydd, a gobeithiwn y bydd y project hwn yn ein galluogi i helpu pobl yn Quthing i gael y gofal iechyd sy'n gallu gwneud gwahaniaeth rhwng byw neu farw i nifer fawr o bobl."

Gyda phrinder o 4.25 miliwn o weithwyr iechyd ym mhedwar ban byd, mae'r bwlch cynyddol rhwng y cyflenwad o weithwyr iechyd sydd wedi'u hyfforddi'n briodol, a'r galw am eu gwasanaethau, yn fater allweddol o ran diffyg datblygiad a thlodi byd-eang.

Dywedodd Ben Simms, Prif Weithredwr THET:

"Mae'r byd yn wynebu prinder difrifol o weithwyr iechyd hyfforddedig. Dyna pam mae'r projectau cydweithio hyn mor gyffrous. Bydd ein cydweithwyr yn teithio dramor i wella gwybodaeth a sgiliau gweithwyr iechyd mewn gwledydd heb fawr ddim gallu mewn arwain a rheoli. Maen nhw'n gwneud hynny fel gwirfoddolwyr, yn rhannu'r gorau sydd gan y GIG i'w gynnig gyda gwledydd yn gweithio'n galed i ddarparu gofal iechyd ar gyfer pob dinesydd. Yn y cyfamser, byddant yn cael profiad gwerthfawr a fydd yn fuddiol i'w gwaith yn ôl ym Mhrydain.”

Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2015