Dod â bwrlwm Bangor i Brifwyl y Bae

Unwaith eto eleni, bydd staff Prifysgol Bangor yn cyfrannu â’u harbenigeddau at nifer o weithgareddau craidd ac ymylol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n cael ei chynnal yn ardal Caerdydd rhwng 3 - 11 Awst.

Y Gwyddorau

Bydd yr Athro Emeritws Deri Tomos, enillydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017 yn agor y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg ddydd Sadwrn,  ac mae Dr Dei Huws o’r Ysgol Gwyddorau Eigion yn traddodi’r ddarlith ‘Gwyddonwyr Môr: mae Cymru a’r Byd eich angen yn fwy nag erioed!’  sef prif Ddarlith Wyddonol yr Eisteddfod, sydd am 14:30 ddydd Iau 09 Awst yn Cymdeithasau 1 (yn Adeilad y Senedd). Hefyd bydd staff o’r Brifysgol yn cynnal ‘Sioe Wyddoniaeth Wych!’ yn ddyddiol yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg drwy gydol yr wythnos.

Defnyddio’r Gymraeg

Bydd y defnydd o’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destynnau yn derbyn sylw mewn sawl cyfarfod a thrafodaeth yn ystod yr Eisteddfod. Eleni mae’r sylw yn troi at y Gymraeg ym myd technoleg, gyda Delyth Prys ac Indeg Williams o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr y Brifysgol yn cyfrannu at sawl digwyddiad yn y maes: Ddydd Llun am 10.00 ym Mhabell y Cymdeithasau, bydd yn cyfrannu at banel “Ieithoedd Ewrop yn yr Oes Ddigidol” gyda Jill Evans ASE. Mae Delyth ac Indeg hefyd yn cyfrannu at sesiwn am 6 o’r gloch nos Iau yn dwyn y teitl ‘Panel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar Dechnoleg a’r Gymraeg’ ym Mhabell y Cymdeithasau. Mewn cyd-destun fymryn yn fwy personol, am 11.30 fore Gwener yn Stondin yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (ar y cyd gyda Llenyddiaeth Cymru), bydd Delyth Prys mewn sgwrs gydag Angharad Tomos yn trafod "Brwydr y Beasleys ac Ymgyrchu Dros y Gymraeg”.  (Ymgyrch rhieni Delyth yn y 1950au a arweiniodd at iddynt dderbyn bil treth dwyieithog yn 1960).

Ddydd Mercher, bydd Dr Cartin Hedd Jones o Ysgol Gwyddorau Iechyd yn trafod pwysigrwydd y Gymraeg yng ngofal cymdeithasol mewn digwyddiad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru  rhwng 1-3.00 yn Hwb Gwyddorau Bywyd.

Y Celfyddydau

Ddydd Mawrth, bydd Dr Manon Williams, Darlithydd mewn Drama yn Ysgol y Gymraeg, yn Cadeirio ‘Wastad ar y Tu Fas’, sy’n rhan o weithgaredd Mas ar y Maes yn ymwneud â’r gymuned LGBT yng Nghymru.  Bydd Manon hefyd yn Theatr y Maes am 2.00 Dydd Iau ar gyfer Sesiwn drafod yn dilyn darlleniad o addasiad llwyfan o’r ffilm Nel, Theatr Genedlaethol Cymru

Ddydd Mercher am 11.00 ar stondin Prifysgol Bangor, mae Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn lansio ‘Chwedlau ar Lafar’, sef adnodd digidol i rieni sydd yn dysgu Cymraeg. Mae’r pecyn yn cyflwyno tair chwedl, un o’r de, un o’r canolbarth ac un o’r gogledd i ddysgwyr gan gynnwys cip ar dafodieithoedd a hanes yr ardaloedd hynny.

Hefyd dydd Mercher (am 3pm yn Sinemaes) bydd dangosiad ffilmiau myfyrwyr yr Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau (sy’n dilyn cyrsiau Coleg Cymraeg Cenedlaethol).

Bydd digwyddiad cyn-cyhoeddi ‘Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru’ sydd wedi ei gyd-olygu gan Wyn Thomas a’r Athro Pwyll ap Siôn o Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor, gyda pherfformiadau ar y piano gan Chris Williams, yn Ty Cerdd, Canolfan y Mileniwm ddydd Iau am 2.00.  Cyhoeddir y Cydymaith ym mis Medi, gyda lansiad swyddogol yn y Brifysgol ar 27 Medi.

Dydd Gwener, bydd Yr Athro Jerry Hunter yn ymuno â Myrddin ap Dafydd i holi Emyr Lewis am ei gyfrol newydd, Twt lol!, yn sesiwn Awdur y Dydd am 1.30pm yn Y Babell Lên. 

Hefyd bydd rhai o feirdd y Brifysgol, sef Dr Llion Jones ac Ifan Prys o Ganolfan Bedwyr yn cystadlu i dîm Caernarfon yn rownd derfynol y Talwrn 2.15pm Y Babell Lên, Theatr y Weston, Canolfan Mileniwm Cymru ar dydd Sadwrn 4 Awst.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Awst 2018