Ydych chi eisiau aros yn iach yn feddyliol pan fyddwch yn hŷn? Ysgogwch eich ymennydd pan fyddwch yn fengach

Yn ôl ymchwil newydd mae ysgogi'r ymennydd drwy gyflawni swyddogaethau arwain yn y gwaith, neu aros ymlaen mewn addysg, yn helpu pobl i aros yn iach yn feddyliol yn ddiweddarach mewn bywyd. 

Arweiniwyd yr ymchwiliad sylweddol gan Yr Athro Linda Clare o Brifysgol Exeter, ac a fu'n aelod o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor hyd yn ddiweddar, a chyhoeddwyd y canlyniadau yn y cyfnodolyn PLOS Medicine. Defnyddiwyd data a gasglwyd o dros 2,000 o bobl dros 65 oed a oedd yn ffit yn feddyliol, gan archwilio'r ddamcaniaeth bod profiadau sy'n rhoi her i'r ymennydd mewn ieuenctid a chanol oed yn gwneud pobl yn fwy gwydn i ddelio â newidiadau'n deillio o henaint neu salwch - mae ganddynt 'gryfder gwybyddol' uwch.   

Darganfu'r dadansoddiad, a gyllidwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), fod pobl gyda lefelau uwch o gryfder gwybyddol yn debygol o aros yn chwim yn feddyliol am gyfnod hwy, gan wneud yr ymennydd yn fwy gwydn i ddelio ag afiechydon megis dementia. 

Roedd y tîm ymchwil yn cynnwys cydweithwyr o brifysgolion Bangor, Newcastle a Chaergrawnt. 

Meddai Linda Clare, Athro Seicoleg Glinigol Heneiddio a Dementia ym Mhrifysgol Exeter:  "Nid yw colli gallu meddyliol yn ddiweddarach mewn bywyd yn anochel.  Rydym yn gwybod y gallwn i gyd weithredu i gynyddu ein siawns o gynnal ein hiechyd meddyliol, drwy fyw'n iach a chymryd rhan mewn gweithgareddau ysgogol.  Mae'n bwysig ein bod yn deall sut a pham mae hyn yn digwydd, fel y gallwn roi cyngor ac arweiniad i bobl er mwyn sicrhau eu bod yn byw bywydau llawn a bywiog wrth iddynt fynd yn hŷn.

"Gwelir fod 'cryfder gwybyddol' uwch gan bobl sy'n ymwneud â gweithgareddau ysgogol sy'n ymestyn yr ymennydd a'i herio i ddefnyddio gwahanol strategaethau sy'n ymarfer amrywiaeth o rwydweithiau.   Mae hyn yn adeiladu byffer yn yr ymennydd gan ei wneud yn fwy gwydn.  Mae'r byffer hwn wedyn o gymorth i warchod yr ymennydd rhag salwch neu ddirywiad yn ddiweddarach mewn oes." 

Fe wnaeth y tîm ymchwil ddadansoddi data 2,315 o gyfranogwyr ffit yn feddyliol dros 65 oed a gymerodd ran yn rownd gyntaf cyfweliadau'r Astudiaeth ar Weithrediad Gwybyddol a Heneiddio yng Nghymru (CFAS-Cymru).

Fe wnaethant ddadansoddi a oedd ffordd o fyw iach yn gysylltiedig â gwell perfformiad wrth wneud prawf gallu meddyliol.  Fe wnaethant ddarganfod bod diet iach, mwy o weithgaredd corfforol, mwy o weithgaredd cymdeithasol a gweithgareddau sy'n ysgogi'r meddwl, ynghyd â defnyddio alcohol yn gymedrol, i gyd i weld fel pe baent yn hybu perfformiad gwybyddol.   

Meddai’r Athro Bob Woods o Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor, sy'n arwain astudiaeth CFAS Cymru:   "Fe wnaethom weld fod pobl a oedd yn byw bywydau iachach yn cael sgoriau gwell ar brofion gallu meddyliol, a'r rheswm rhannol am hyn oedd lefel eu cryfder gwybyddol.

"Mae ein canlyniadau'n dangos pwysigrwydd cael polisiau a mesurau sy'n annog pobl hŷn i wneud newidiadau yn eu diet, ymarfer mwy, a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a rhai sy'n ysgogi'r meddwl." 

Meddai'r Athro Fiona Matthews o Brifysgol Newcastle, prif ystadegydd yr astudiaethau CFAS, "Mae llawer o'r ffactorau a geir yma yn bwysig nid yn unig o ran iechyd ein hymennydd, ond hefyd i osgoi clefyd y galon pan mae pobl yn fengach."

Cefnogir Yr Athro Clare gan y National Institute for Health Research Collaboration for Leadership in Applied Health Research and Care South West Peninsula (NIHR PenCLAHRC).

Cyhoeddwyd y papur, Potentially modifiable lifestyle factors, cognitive reserve, and cognitive function in later life: A cross-sectional study, yn PLOS Medicine yn ddiweddar.

Yr awduron yw Linda Clare, Yu-Tzu Wu, Julia C. Teale, Catherine MacLeod, Fiona Matthews, Carol Brayne, Bob Woods, a thîm astudiaeth CFAS-Cymru.    

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2017