Ymchwil yn cynnwys Prifysgol Bangor sy'n berthnasol i adferiad llawn cleifion Covid-19 wedi ei ddyfynnu gan Senedd Ewrop

Cyhoeddwyd ymchwil gan yr Athro Dyfrig Hughes o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd ar effaith economaidd syndrom blinder cronig (CFS)  - a adwaenir hefyd fel enseffalomyelitis myalgig (ME) - yn y cyfnodolyn Healthcare yn ddiweddar. Mae wedi cael ei ddyfynnu gan Senedd Ewrop yn eu penderfyniad i roi mwy o arian i ymchwil biofeddygol ar ME/CFS.

https://www.europarl.europa.eu/news/en/press-room/20200425IPR77906/underfunding-of-biomedical-research-into-myalgic-encephalomyelitisis-unjustified

Mae'r Athro Hughes wrth ei fodd bod yr ymchwil yn cael effaith ar lefel Ewropeaidd, a dywedodd:

“Gwnaed yr ymchwil fel rhan o'r European Network on ME/CFS (EUROMENE) a nododd y gallai baich blynyddol ME/CFS yn Ewrop fod oddeutu €40 bn. Gwnaeth yr adroddiad argymhellion ar gyfer ymchwil yn y dyfodol gyda'r nod o asesu effeithiau economaidd ME/CFS. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn perthynas â'r pandemig byd-eang cyfredol o ystyried y nifer uchel tebygol o achosion o syndrom blinder ôl-firaol ymhlith pobl sydd wedi dod trwy Covid-19."

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2020