Arddangos ymchwil arloesol i ofal iechyd

Efo’r Gweinidog (canol) roedd Dr Gill Windle, Athro Bob Woods, Chris Roberts, sydd a dementia, Is-Ganghellor, yr Athro John G Hughes, Athro Jo Rycroft-Malone a’r Athro Chris Burton.Efo’r Gweinidog (canol) roedd Dr Gill Windle, Athro Bob Woods, Chris Roberts, sydd a dementia, Is-Ganghellor, yr Athro John G Hughes, Athro Jo Rycroft-Malone a’r Athro Chris Burton.Heddiw (Iau 2 Gorffennaf), ym Mhrifysgol Bangor, rhoddwyd sylw i ymchwil newydd o bwys sydd i wella gofal iechyd yng Nghymru a’r DU.

Oherwydd y posibiliadau iddynt effeithio ar wasanaethau i gleifion, tri phroject penodol a gafodd flaenoriaeth, wrth i Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, ymweld â’r Coleg Iechyd a Gwyddorau Ymddygiad yn y Brifysgol.

Mae rhaglen a ddatblygwyd gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i gynorthwyo adferiad wedi strôc yn edrych yn addawol iawn, ac mae eisoes yn cael ei defnyddio gyda grwpiau eraill o gleifion, hyd yn oed cyn i’r ymchwil ddod i ben. Mae nifer o raglenni i gefnogi bywyd wedi strôc wedi profi’n aneffeithiol. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn cael eu harwain gan weithwyr proffesiynol yn y maes iechyd – ac efallai mai dyna sydd wrth wraidd y broblem. Fodd bynnag, mae ymdriniaeth flaengar Prifysgol Bangor yn torri tir newydd. Mae’r dull newydd, sef hyfforddi rhai sydd wedi goroesi strôc fel hyfforddwr cyfoed, yn profi mor llwyddiannus fel ei fod eisoes wedi’i ddefnyddio mewn sefyllfaoedd eraill, gyda phobl sydd wedi cael anaf trawmatig i’r ymennydd.

Mae’r ymchwil yn dal i fynd rhagddi ac yn asesu effeithiolrwydd cyd-blethu arbenigaeth yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd â dealltwriaeth a phrofiad rhai sydd wedi goroesi strôc, er mwyn datblygu’r rhaglen hyfforddi cyfoed.

Meddai’r Athro Christopher Burton o’r Ysgol Gwyddor Gofal Iechyd, “Llwyddiant y rhaglen yw ei bod yn rhoi ‘grym i’r bobl’ i’r rhai sydd wedi goroesi strôc.  Rydym  yn gwybod bod cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a hamdden yn rhoi budd i bobl sydd wedi dioddef strôc, ac mae anogaeth i gymryd rhan gan eraill sydd wedi profi strôc yn rhoi mwy o anogaeth iddynt gymryd rhan.”

Mae ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd o fewn y Brifysgol hefyd â’i bryd ar wella gofal i’r rhai sydd â chlefyd angheuol.

Un her, yn benodol i gleifion strôc, yw adnabod yr arwyddion nad yw claf yn mynd i wella, a rhoi cychwyn ar drafodaeth briodol â’r cleifion hynny er mwyn sicrhau eu bod yn cael gofal priodol ar ddiwedd eu hoes.

Bydd yr ymchwil hon o gymorth i bobl ym maes gofal iechyd a meddygaeth, fel y gallant asesu pa bryd yn union y dylai’r sgwrs honno ddigwydd. Mae’r ymchwilwyr, sydd yn arbenigwyr mewn defnyddio ffrwyth ymchwil yn effeithiol yn ymarferol mewn amgylchedd gofal iechyd, wedi cydweithio â phartneriaid clinigol ac ymchwilwyr ledled y DU, er mwyn cynorthwyo gweithwyr proffesiynol i wella’r agwedd bwysig hon ar wasanaethau strôc ddwys.

Yn ychwanegol at ymchwil, mae’r Ysgol yn cydweithio mewn cysylltiad agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cadwaladr (BCUHB)  er mwyn gwella profiadau cleifion a theuluoedd yn y rhanbarth. Er enghraifft, mae  arbenigwyr o’r Ysgol yn gweithio gydag arweinwyr nyrsio yn y Bwrdd Iechyd i wella ansawdd gofal yn y sector Ysbytai Cymunedol yng Nghymru. Mae’r Grŵp ymchwil eisoes wedi nodi blaenoriaethau ar gyfer strategaeth gwella ansawdd yn y rhan bwysig hon o’r system gofal iechyd.

Meddai’r Athro Jo Rycroft Malone, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd:

“Gan gynnig rhagoriaeth mewn dysgu ac ymchwil, mae gan yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd hanes cryf o lwyddiant wrth gydweithio â gwasanaethau iechyd ar draws y DU.  Rydym yn falch o fedru cefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda’r gwaith hwn gydag ysbytai cymunedol yng Ngogledd Cymru, ac mewn meysydd eraill, er mwyn parhau i wella profiadau a chanlyniadau cleifion”.

Roedd y Gweinidog, Mark Drakeford  hefyd yn lansio Join Dementia Research, menter ar y cyd a fydd yn cynyddu ymchwil dementia yng Nghymru drwy alluogi pobl sydd â dementia neu hebddo i gofnodi eu diddordeb mewn astudiaethau, gan gynorthwyo ymchwilwyr i ganfod y cyfranogwyr ymchwil priodol ar yr adeg briodol.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2015