REF 2014: Safon eithriadol ymchwil iechyd ym Mhrifysgol Bangor

Mae Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd wedi croesawu canlyniadau REF 2014, lle barnwyd bod 95% o ymchwil yn ymwneud ag iechyd ym Mhrifysgol Bangor o safon gyda'r orau yn y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol.   

   

 Meddai'r Athro Jo Rycroft-Malone, "Mae ansawdd ein cynnyrch ymchwil ym maes iechyd yn ein rhoi yn y 3 uchaf allan o 94 o brifysgolion, a'n sgôr am ansawdd ymchwil drwodd a thro (GPA) oedd yr uchaf yn y Brifysgol.   Roedd ein hymchwil yn ymdrin â sialensiau pwysig byd-eang ym maes iechyd yn ymwneud â threfnu a darparu gofal iechyd gydol oes, ac o fainc y labordy i erchwyn y gwely.  Mae'r llwyddiant hwn yn dangos ein hymrwymiad i ymchwil a fydd yn cael effaith er gwell ar gleifion a gwasanaethau iechyd."

Dywedodd yr Athro Rycroft-Malone ei bod wrth ei bodd gyda'r canlyniad, a ddisgrifiodd fel 'llwyddiant sylweddol a phwysig'. 

 "Mae'r canlyniad hwn yn adlewyrchu arbenigedd ac ymroddiad ein staff ac yn cadarnhau ein huchelgais i barhau yn rym amlwg ym maes ymchwil iechyd.  Rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda'n partneriaid i ganfod ffyrdd newydd o sicrhau bod canfyddiadau ymchwil yn cael eu cynnwys mewn ymarfer fel bod cleifion a gwasanaethau yn elwa. 

"Mae hwn yn ganlyniad pwysig i'n myfyrwyr gan y byddant yn parhau i elwa o astudio mewn sefydliad sy'n rhoi pwyslais sylweddol ar ymchwil, yn ogystal â bod mewn prifysgol sydd yn uchaf yng Nghymru ac yn 7fed ym Mhrydain am foddhad ei myfyrwyr.   Mae ein cyflwyniad wedi arwain at safle drwodd a thro yn yr 20 uchaf allan o 94 prifysgol ym Mhrydain.     Gallwn i gyd ddathlu'r canlyniadau hyn - maent yn dyst i'n rhagoriaeth bresennol a'n potensial at y dyfodol."

Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol yma.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014