Dyfarnu Gwobr am Wasanaethau i Ofal Iechyd Dwyieithog

Mae project i roi labeli rhybudd Cymraeg ar feddyginiaethau wedi ennill y wobr am Wasanaethau i Ofal Iechyd Dwyieithog  yng Ngwobrau Cyrhaeddiad cyntaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Y partneriaid yn y project oedd Uned Dechnolegau Iaith (UTI) Canolfan Bedwyr a Chanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor, ar y cyd gyda fferyllwyr Ysbyty Gwynedd.

Hwn oedd y tro cyntaf i rybuddion meddyginiaethau fel hyn gael eu datblygu yn Gymraeg. Cymeradwywyd y gwaith gan Brif Swyddog Fferyllol Cymru, ac mae’r labeli wedi’u cyhoeddi yn y British National Formulary, sef cyhoeddiad safonol fferyllwyr Prydain.  

Cyfrannodd Delyth Prys o’r UTI ei harbenigedd terminolegol i’r gwaith, a chyfrannodd yr Athro Dyfrig Hughes (CHEME) ei arbenigedd fferyllyddol.  Mae’r tîm yn gobeithio ymestyn yr ymchwil i gynnwys rhagor o labeli ar feddyginiaethau, gan adeiladu ar y bartneriaeth rhwng academia a’r proffesiynau  iechyd yng Nghymru. 

Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2016