Hen Blant Bach ar restr fer gwobrau rhyngwladol Ffilm a Theledu

Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth gyrraedd rownd derfynol Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2018.

Mae Hen Blant Bach, sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, wedi’i henwebu yng nghategori Portreadau Cymunedol. Roedd y gyfres yn fformat ffeithiol newydd gan S4C a oedd yn olrhain arbrawf cymdeithasol unigryw. Yn y rhaglen, ddaeth pobl mewn oed ynghyd â phlant meithrin i rannu eu gofal dydd, gan ddangos yr effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib o’u dod at ei gilydd.

Yn rhannu eu harbenigeddau ar y rhaglen oedd dwy seicolegydd o Brifysgol Bangor, Dr Catrin Hedd Jones, o’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd a Dr Nia Williams o’r Ysgol Addysg, a ymddangosodd yn y rhaglen, a'r Athro Bob Woods.

Dan lygaid barcud y seicolegwyr, cafwyd sylwebaeth graff ar yr hyn oedd yn datblygu rhwng y plant â’r henoed wrth i’r bwlch oedran gael ei bontio – a'r effeithiau cadarnhaol a ddaeth yn ei sgil.

Meddai Dr Nia Williams o’r Ysgol Addysg:

“Mae’r enwebiad yn gydnabyddiaeth anhygoel i’r gwaith ymchwil ac yn gyfle gwych i roi  Cymru a Phrifysgol Bangor ar y map.”

Mae’r gyfres  diweddaraf wedi elwa o gefnogaeth Ysgoloriaeth KESS 2 mewn partneriaeth a Darlun. 

Esbonia Dr Catrin Hedd Jones: “Mae'r gefnogaeth hyn wedi galluogi i ni gynnal ymchwil pwysig i effaith yr tri diwrnod ar y plant, oedolion a'r staff sydd ynghlwm ar sefydliadau. Rydym wedi apwyntio myfyrwraig o dan y cynllun, sydd gwneud Meistr Ymchwil a gyllidwyd gan KESS 2 ac yn gweithio ar y cyd gyda'r cwmni teledu a’r Brifysgol i ddatblygu’r gweithgaredd tra'n cwblhau gradd ymchwil meistr gan gasglu gwybodaeth cyn i’r plant a pobl hyn gwrdd a'i gilydd ac yn dilyn y wythnos o weithgareddau.

Mae KESS 2 yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe’i cyllidir yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Roedd dwy raglen arall o S4C wedi eu henwebu hefyd, sef Bang, ar gyfer categori Drama Drosedd a rhaglen ddogfen Colli Dad, Siarad am Hynna, cynhyrchiad BBC Cymru, wedi cael ei enwebu yng nghategori Materion Cymdeithasol. 

Meddai Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C, Amanda Rees: “Llongyfarchiadau i bawb ar yr enwebiadau. Mae tri enwebiad ar gyfer gwobrau rhyngwladol fel hyn yn bluen yn het S4C ac yn glod i'r sector gynhyrchu talentog sydd gennym ni yng Nghymru.

“Er ein bod ni’n canolbwyntio ar feithrin, dathlu a chefnogi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, mae cael y cyfle i godi proffil S4C, Cymru a'r iaith Gymraeg ar lwyfan rhyngwladol yn rhywbeth arbennig iawn ac yn destun balchder mawr.”

Cynhelir seremoni Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2018 yn Las Vegas ar 10 Ebrill, 2018.

Gweler hefyd:

https://www.bangor.ac.uk/news/prifysgol/dagrau-a-chwerthin-wrth-i-r-hen-a-r-ifanc-rannu-profiadau-34919

https://www.bangor.ac.uk/news/prifysgol/arbrawf-arloesol-mewn-gofal-sy-n-pontio-cenedlaethau-30131

Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2018