Dewis yr Athro Jane Noyes yn Gymrawd Academi Nyrsio America

Mae Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi bod yr Athro Jane Noyes, wedi'i dewis i fod yn Gymrawd Academi Nyrsio America (Academi).  Athro mewn Ymchwil i Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Plant yw Jane yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd. Mae cael ymuno â’r Academi yn garreg filltir arwyddocaol yng ngyrfa unrhyw arweinydd nyrsio ac yn ffordd i’w cydweithwyr o fewn ac oddi allan i’r proffesiwn gydnabod eu llwyddiannau. Dewisir cymrodyr ar sail eu cyfraniadau a'u heffaith ar wella iechyd y cyhoedd.

Cymdeithas er anrhydedd yw’r Academi sy'n cydnabod arweinwyr mwyaf medrus y maes nyrsio o ran polisi, ymchwil, ymarfer, gweinyddu a'r byd academaidd. Mae gan Gymrodyr yr Academi, o bron i 40 o wledydd, amrywiaeth eang o rolau sy'n dylanwadu ar ofal iechyd. Pan wneir rhywun yn gymrawd mae hynny’n cynrychioli mwy na dim ond cydnabod cyflawniadau rhywun yn y proffesiwn nyrsio. Mae cymrodyr yn cyfrannu eu harbenigedd ar y cyd i'r Academi, gan ymwneud ag arweinwyr iechyd eraill yn genedlaethol ac yn fyd-eang i wella iechyd a chyflawni ecwiti iechyd trwy gael effaith ar bolisi trwy arweinyddiaeth nyrsio, arloesi a gwyddoniaeth. 

gydnabod a'i ddefnyddio'n fyd-eang gan sefydliadau megis Academïau Gwyddorau, Peirianneg a Meddygaeth yr Unol Daleithiau i lywio parodrwydd ac ymateb brys yr Unol Daleithiau mewn materion iechyd cyhoeddus, a bwydodd hynny yn ei dro i mewn i’r ymdrechion byd-eang mewn perthynas â Covid 19.  Mae Prifysgol Bangor wedi darparu’r gefnogaeth yr oeddwn ei hangen i wneud y gwaith pwysig hwn er budd pobl ledled y byd.”

Hyfforddodd yr Athro Jane Noyes i fod yn nyrs yn y Nightingale School of Nursing yn Ysbyty St Thomas, Llundain. Cwblhaodd hyfforddiant ôl-gofrestru mewn nyrsio plant yn Ysbyty Guys ac Ysbyty Brenhinol Brompton yn Llundain.  Yn dilyn gyrfa glinigol fel Prif Weinyddes Nyrsio gofal dwys i blant yn Ysbyty Great Ormond Street, a Sefydliad Cenedlaethol y Galon a'r Ysgyfaint yn Llundain, daeth yn un o'r nyrsys cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ennill Cymrodoriaeth Hyfforddiant Ymchwil fawreddog y Cyngor Ymchwil Feddygol a alluogodd iddi symud i Brifysgol Efrog i ymgymryd â Doethuriaeth mewn Ymchwil Gwasanaethau Iechyd. 

Yr Athro Jane Noyes

 

Ers hynny mae wedi datblygu enw da iddi ei hun yn fyd-eang mewn ymchwil i iechyd plant.  Mae'n fwyaf adnabyddus fel arweinydd hirsefydlog grŵp Cochrane o fethodolegwyr o fri rhyngwladol sydd wedi gwneud gwaith arloesol i ddatblygu ac egluro'r dulliau o syntheseiddio tystiolaeth ansoddol a dull cymysg i lywio'r broses o wneud penderfyniadau clinigol.  Mae grŵp Cochrane yn arweinydd byd-eang ar gynhyrchu adolygiadau o dystiolaeth ddibynadwy gan ddefnyddio dulliau trylwyr i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.  Yn aml mae sefydliadau byd-eang megis Sefydliad Iechyd y Byd a gwahanol asiantaethau Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn galw ar Jane i gynghori ar ddulliau synthesis tystiolaeth a'u cymhwyso yn y broses o wneud penderfyniadau.  Ymunodd Jane â Phrifysgol Bangor yn 2005.

Dywedodd Dr Lynne Williams, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd “Rwy’n falch iawn bod Jane wedi’i dewis yn Gymrawd, mae hon yn wobr fawreddog a haeddiannol iawn. Mae gwaith Jane, yn enwedig ym maes ymchwil i iechyd plant, yn cael ei gydnabod ledled y byd, ac mae'r dyfarniad yn tystio i gyfraniad penodol Jane at wneud gwahaniaeth mewn gofal clinigol ac anghlinigol. Rydym ym Mhrifysgol Bangor yn falch iawn o weld Jane yn ymuno â'r Academi, ac mae'r Brifysgol yn ei llongyfarch ar ei llwyddiant."

Dywedodd yr Athro Jane Noyes:

“Mae’n anrhydedd cael fy newis yn Gymrawd Academi Nyrsio America. Rwy'n falch bod fy ngwaith methodolegol gyda Cochrane i ddatblygu dulliau synthesis tystiolaeth ansoddol a dull cymysg wedi'i gydnabod a'i ddefnyddio'n fyd-eang gan sefydliadau megis Academïau Gwyddorau, Peirianneg a Meddygaeth yr Unol Daleithiau i lywio parodrwydd ac ymateb brys yr Unol Daleithiau mewn materion iechyd cyhoeddus, a bwydodd hynny yn ei dro i mewn i’r ymdrechion byd-eang mewn perthynas â Covid 19.  Mae Prifysgol Bangor wedi darparu’r gefnogaeth yr oeddwn ei hangen i wneud y gwaith pwysig hwn er budd pobl ledled y byd.”

Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2021