Treial i ateb penbleth trin epilepsi plant

Mae un o'r treialon clinigol mwyaf erioed mewn plant ag epilepsi, sydd newydd gael ei lansio, yn ceisio darganfod pa driniaeth sy'n gweithio orau i blant a'u teuluoedd. Arweinir y treial CASTLE cenedlaethol gan yr Athro Deb Pal o King's College Llundain a'r Athro Paul Gringras o Ysbyty Plant Evelina Llundain, mewn cydweithrediad â'r Athro Dyfrig Hughes o Brifysgol Bangor. Dyma'r unig dreial i gymharu cyffuriau gwrth-epileptig gyda monitro gweithredol heb unrhyw feddyginiaeth.

Lansiwyd y prawf CASTLE ar Ddiwrnod Piws, y diwrnod ymwybyddiaeth epilepsi sy'n canolbwyntio ar y teulu ar Fawrth 26ain, ac mae 28 o Ymddiriedolaethau'r GIG ledled y DU eisoes wedi ymrwymo i gymryd rhan. Mae'r ymchwilwyr yn gobeithio cofrestru 300 o blant ag epilepsi rolandig.

Epilepsi Rolandig yw'r math mwyaf cyffredin o epilepsi plant, sy'n effeithio ar tua 10,000 o bobl ifanc yn y DU. Mae ffitiau'n digwydd amlaf yn ystod y nos, ac yn effeithio ar blant rhwng 5 a 12 oed cyn digwydd llai a llai a dod i ben pan fyddant yn eu harddegau.

Yn draddodiadol, trin epilepsi â chyffuriau i leihau'r ffitiau fu nod triniaeth feddygol. Fodd bynnag, mae'r cyffuriau a ddefnyddir i drin epilepsi yn aml yn arafu meddwl a dysgu plentyn. Gan fod plant ag epilepsi Rolandig yn 'tyfu allan' o'u ffitiau, yn aml nid yw meddygon a rhieni yn gwybod a ddylent drin plant ai peidio, ac nid yw llawer o deuluoedd yn dewis unrhyw feddyginiaeth.

Mae rhaglen ymchwil CASTLE yn canolbwyntio ar fwy na ffitiau, gan ystyried yr agweddau ehangach o fyw gydag epilepsi rolandig sy'n bwysig i deuluoedd, fel dysgu, cwsg, ymddygiad, hunan-barch a hwyliau plant. Mae teuluoedd wedi bod yn ganolog i'r rhaglen ymchwil wrth arwain y ffyrdd gorau o fesur iechyd ac ansawdd bywyd plant.

Bydd y treial yn cymharu dau gyffur trwyddedig, gan gymharu eu heffeithiau â monitro gweithredol heb unrhyw feddyginiaeth. Mae canllawiau NICE yn argymell triniaeth gyda'r cyffur epileptig safonol, carbamazepine, sy'n effeithiol iawn wrth atal trawiadau ond a all gael effeithiau negyddol ar ddysgu. Gallai cyffur mwy newydd o'r enw levetiracetam fod yr un mor effeithiol, ond heb effeithio ar ddysgu, ond nid yw wedi'i werthuso mewn treial clinigol trylwyr ar gyfer epilepsi rolandig.  Ail nod allweddol treial CASTLE yw profi a all gwella cwsg leihau nifer y ffitiau. Mae'r ymchwilwyr wedi datblygu ymyrraeth ymddygiad cwsg ar-lein gyntaf y byd yn arbennig ar gyfer epilepsi, sy'n addysgu rhieni sut i annog eu plant i gysgu'n dda. Bydd y treial yn profi pa mor dda y mae'r ymyriad cwsg yn gweithio gyda meddyginiaeth a heb feddyginiaeth ar gyfer ffitiau.

Dywedodd yr Athro Dyfrig Hughes, o Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, Prifysgol Bangor: Ar wahân i bwysigrwydd amlwg penderfynu pa driniaeth sydd fwyaf effeithiol, mae'n bwysig hefyd i'r GIG wybod pa un sy'n gost-effeithiol. Bydd ein gwaith yn cynnwys cydbwyso'r manteision yn erbyn y costau i nodi pa un sy'n darparu'r gwerth gorau am arian i'r GIG'.

Anogir teuluoedd sydd â diddordeb mewn cymryd rhan i siarad â'u pediatregydd neu nyrs epilepsi. Mae mwy o fanylion am gymryd rhan ar gael ar-lein:  http://castlestudy.org.uk/take-part/

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2019